
Mae'r ceisiadau ar gyfer y 25ain Gwobrau Arloesedd bellach AR AGOR
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobrau Arloesedd 2025 ar agor. Mae’r Gwobrau Arloesedd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y goreuon o ran creadigrwydd a gwaith dylunio o blith y nifer mawr o fyfyrwyr dawnus sydd gennym yng Nghymru.
Mae'r ceisiadau ar agor i fyfyrwyr sy'n astudio ein cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg yng Nghymru, lle rydym yn dathlu ac yn gwobrwyo'r gwaith project mwyaf gwreiddiol.
Jason Cates, Swyddog Pwnc Dylunio a Thechnoleg: “Rydym yn awyddus i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled a chyflawniadau myfyrwyr ledled Cymru yn ein gwobrau nodedig. Bob blwyddyn, rydym yn edrych ymlaen at weld a dathlu'r gwaith mae myfyrwyr wedi'i greu, sy'n dangos y goreuon o ran creadigrwydd a thalent arloesol Cymru.”
Bydd gwaith yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael ei ddangos mewn arddangosfa yng Nghaerdydd a Bangor. Bydd yr arddangosfeydd ar agor i bob ysgol/coleg ledled Cymru, er mwyn iddynt gael eu hysbrydoli gan waith eu cyfoedion. Yn dilyn hyn bydd seremoni wobrwyo fawreddog yn cael ei chynnal, lle bydd yr enillwyr yn cael eu gwobrwyo.
Rydym yn gwobrwyo 7 chategori, sy'n cynnwys:
- Enillydd cyffredinol
- Safon Uwch
- UG
- TGAU
- Creadigrwydd
- Eiddo Deallusol
- Gwyddoniaeth
I weld enillwyr y gorffennol, ewch i'n tudalen gwobrau 2024.
Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 9 Mehefin 2025. Mae rhagor o fanylion i'w cael ar y dudalen we Gwobrau Arloesedd. |