Mae ceisiadau ar gyfer y 12fed Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol AR AGOR 

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobrau Delwedd Symudol 2026 ar agor. Mae'r gwobrau yn cydnabod y myfyrwyr ffilm a chyfryngau CBAC gorau ar draws y DU a thramor mewn categorïau fel Ffilm Fer/Darn o Deledu i Fideo Cerddoriaeth a mwy. Mae wedi ennill cefnogaeth gan athrawon a darlithwyr mewn amrywiaeth o sefydliadau, yn ogystal â gan ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm.   

Bydd y seremoni wobrwyo unigryw, sy'n cael ei threfnu gan CBAC/Eduqas ar y cyd â'r British Film Institute (BFI), yn digwydd yn gynnar yn 2026 a bydd nifer o ffigyrau blaenllaw o'r diwydiant ffilm yn rhan ohoni. 

Dr. Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm:

"Rydym yn croesawu'r cyfle i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled a chyflawniadau myfyrwyr Ffilm a Chyfryngau CBAC Eduqas o bob rhan o Gymru a Lloegr. Bob blwyddyn gwneir argraff fawr arnom gan y gwaith delwedd symudol a chredwn na fydd eleni'n wahanol. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau a dathlu gwaith caled ac arloesedd gwneuthurwyr ffilmiau ifanc eleni. 



Categorïau
 

Rydym yn gwobrwyo 5 categori, sy'n cynnwys: 

  • Animeiddiad Gorau
  • Fideo Cerddoriaeth Gorau
  • Sgript Ffilm Orau
  • Darn Teledu/Ffilm Gorau
  • Ffilm Fer Orau 

I weld ceisiadau blaenorol a gafodd eu rhoi ar y rhestr fer a'r rhai a enillodd, ewch i'n sianel YouTube. 

Gwnewch gais heddiw

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais a'i chyflwyno i ni erbyn 30 Medi 2025.