UG/Safon Uwch Astudiaethau Ffilm

Dysgu: Medi 2017
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Cyn-bapurau / Cynlluniau Marcio
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Pam mae rhai cwestiynau’n rhestru’r elfennau allweddol neu’r meysydd arbenigol ac eraill ddim? 

Mae’r meysydd a restrir yn feysydd allweddol y dylid canolbwyntio arnynt wrth adolygu a pharatoi’n derfynol ar gyfer arholiadau Haf 2022. Y meysydd a restrir yw’r meysydd i ganolbwyntio arnynt ar gyfer y cwestiwn hwnnw. 


Lluniwyd ein manyleb UG/Safon Uwch Astudiaethau Ffilm i gyflwyno dysgwyr i amrywiaeth eang o ffilmiau er mwyn ehangu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ffilm a'r amrywiaeth o ymatebion y gall ffilmiau eu cynhyrchu. 

Mae'r fanyleb hon yn cynnig cyfleoedd i astudio ffilmiau Americanaidd prif ffrwd o'r gorffennol a'r presennol yn ogystal ag amrywiaeth o ffilmiau diweddar a chyfoes o Brydain, ffilmiau Americanaidd annibynnol a byd-eang, rhai Saesneg eu hiaith a rhai nad ydynt yn y Saesneg. 

Mae astudio ffilmiau di-sain a mudiadau arwyddocaol y byd ffilmiau yn ymestyn yr amrywiaeth hanesyddol o ffilmiau a gynrychiolir yn y ffilmiau hynny y cyfeirir atynt uchod fel bod dysgwyr yn cael synnwyr o ddatblygiad ffilm o'i blynyddoedd cynnar i'w dyfodol digidol sy'n dal i ddatblygu. Mae astudio ffilmiau dogfen, arbrofol a ffilmiau byr yn ychwanegu at ehangder y profiad dysgu. 

Mae gwaith cynhyrchu'n rhan bwysig o'r fanyleb hon ac mae'n rhan annatod o astudiaeth dysgwyr o ffilm. Pwrpas astudio amrywiaeth o ffilmiau o nifer o wahanol gyd-destunau yw rhoi cyfle i ddysgwyr gymhwyso’u gwybodaeth a'u dealltwriaeth o sut mae ffilmiau'n cael eu llunio at yr hyn maen nhw'n ei wneud eu hunain wrth wneud ffilmiau a sgriptio. 

Bwriad hyn yw galluogi dysgwyr i greu gwaith ffilm a sgript ffilm o ansawdd uchel yn ogystal â darparu safbwynt gwneuthurwr ffilmiau gwybodus ar ei astudiaeth ei hun o ffilm. 

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.

 

Adnoddau Addysgol Digidol CBAC

 

  • Cyrsiau i ddod
  • Deunyddiau o ddigwyddiadau blaenorol
photo of Jenny Stewart
Oes gennych chi gwestiwn?
Jenny Stewart ydw i
phone_outline 029 2240 4301
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Catrin Budd
phone_outline 029 2240 4301
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Jenny Stewart