Llongyfarchiadau i fyfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau haf 2026 heddiw

Heddiw, bydd myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau ar gyfer y cymwysterau Safon Uwch, UG, Lefel 3, a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. 

Canlyniadau Safon Uwch Cymru 

  • Enillodd 97.7% o fyfyrwyr yng Nghymru raddau A* - E  

  • Enillodd 10.7% o fyfyrwyr radd A*  

Canlyniadau UG Cymru 

  • Enillodd 90.7% o fyfyrwyr raddau A-E  

  • Enillodd 22.5% o fyfyrwyr yng Nghymru radd A  

Lefel 3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch  

  • Enillodd 97.4% o fyfyrwyr raddau A*-E 

  • Enillodd 8.0% o fyfyrwyr radd A* 

Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Llongyfarchiadau i'r holl fyfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Mae eu cyflawniad yn dystiolaeth o'r gwaith caled, dyfalbarhad, a gwydnwch a ddangoswyd ganddyn nhw yn ystod eu cyfnod yn astudio. 

Ar ran CBAC, hoffwn hefyd ddiolch i'r athrawon, darlithwyr, a staff cefnogi yn yr ysgolion a cholegau am eu hymroddiad, proffesiynoldeb ac ymrwymiad diflino wrth gefnogi'r dysgwyr bob cam o'r ffordd. 

Mae'r canlyniadau heddiw yn garreg filltir bwysig ac yn gychwyn ar bennod newydd gyffrous. Hoffwn ddymuno'r gorau i bob myfyriwr wrth iddyn nhw symud ymlaen i'w camau nesaf, boed hynny'n addysg uwch, hyfforddiant pellach, prentisiaethau, neu gyflogaeth. Mae angen edrych ymlaen at bob cyfle sydd i ddod." 

Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw 

Er mwyn cefnogi myfyrwyr, athrawon a rhieni rydym wedi datblygu
Tudalen Gwe Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Ar y dudalen hon, fe welwch chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi. Mae'n cynnwys manylion am Ffiniau Graddau, canllaw i'r broses apeliadau, a chysylltbwyntiau defnyddiol i gael cyngor ac arweiniad. 

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau: 

Jonathan Thomas  
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand  
jonathan.thomas@cbac.co.uk 
029 2026 510