Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn cadarnhau trefn asesiadau Haf 2021
Heddiw, mae Kirsty Williams Gweinidog Addysg Cymru wedi cadarnhau sut y bydd graddau'n cael eu dyfarnu yn haf 2021 i ddysgwyr sy'n astudio cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru.
Yn ei datganiad, cadarnhaodd y Gweinidog y canlynol:
- Defnyddir model Graddau wedi'u pennu gan y Ganolfan i ddyfarnu graddau dysgwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru.
- Mae terfynau amser a rheolaethau asesiadau Di-arholiad yn cael eu tynnu. Fodd bynnag, anogir y canolfannau o hyd i gynnal rhywfaint o asesu di-arholiad er mwyn adeiladu ar ddysg a sgiliau dysgwyr.
- Bydd CBAC yn cefnogi canolfannau i ddatblygu a chyflwyno prosesau sicrhau ansawdd mewnol.
Mae'r datganiad yn llawn i'w weld yma.
Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr, CBAC:
'Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol, ac rydym yn deall bod angen asesu mewn ffordd wahanol yn 2021.'
'Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni i ddatblygu fframwaith asesu fydd yn cefnogi ysgolion a cholegau wrth iddynt gyflwyno'r drefn hon eleni.'
'Mae'n bwysig rhoi pob cyfle i ddysgwyr Cymru ddangos yr hyn maen nhw'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud. Yma mae gennym arbenigedd asesu o bob math, a bydd ein timau ni yn cynnig arweiniad a chefnogaeth o'r radd flaenaf i athrawon wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau a phrosesau yn ystod y flwyddyn eithriadol hon.'
'Bydd ein timau'n gweithio'n gyflym i ddatblygu pecyn i gynnig arweiniad i’r athrawon. Bydd hyn yn cynnwys addasu cyn-bapurau, cynlluniau marcio, ac amrywiaeth o ddeunyddiau cefnogi. Byddwn ni'n gweithio hefyd gyda'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni i ddatblygu prosesau sicrhau ansawdd i gefnogi ysgolion a cholegau.'
'Cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny, byddwn ni'n diweddaru ac yn ychwanegu at y wybodaeth ar ein gwefan a'n sianelau cyfryngau cymdeithasol.'