Helpwch i lunio ein cynnig o gymwysterau newydd ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed

Fel rhan o gynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 oed Cymwysterau Cymru, bydd CBAC yn datblygu cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) a Chymwysterau Sylfaen cysylltiedig â gwaith. Rydym hefyd yn datblygu cymwysterau Sylfaen cyffredinol mewn nifer o bynciau.

Rydym wedi datblygu arolwg i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cymwysterau hyn. Gallwch gael mynediad i'r arolwg drwy'r ddolen ganlynol.

Sylwch, bydd yr arolwg yn cau ar Ebrill 14.

Diben yr arolwg hwn yw casglu barn addysgwyr ar gymwysterau cyfredol ar gyfer pobl ifanc 14–16 oed, ac eithrio TGAU, er mwyn helpu i lunio ein cynnig cymwysterau newydd o 2027, gan sicrhau ei fod yn cefnogi ac yn adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru a’i Bedwar Diben.

Rydym yn chwilio am farn addysgwyr sy'n addysgu yn y meysydd canlynol:

Galwedigaethol (Lefel Mynediad – Lefel 2) Cyffredinol (Lefel Mynediad):
Amgylchedd Adeiledig Lefel Mynediad Cymraeg Ail Iaith
Busnes, Cyfrifeg a Chyllid Lefel Mynediad Cymraeg
Chwaraeon a Hamdden Lefel Mynediad Dylunio a Thechnoleg
Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg Lefel Mynediad Mathemateg a Rhifedd
Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel Mynediad Technoleg Ddigidol
Manwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel Mynediad Y Celfyddydau Mynegiannol
Peirianneg Lefel Mynediad Y Dyniaethau
Teithio a Thwristiaeth
Y Celfyddydau Perfformio

Byddwn hefyd yn datblygu cymwysterau Prosiect a’r Gyfres Sgiliau – fodd bynnag, nid ydym yn casglu barn ynghylch y cymwysterau hynny drwy'r arolwg hwn ond byddwn yn ceisio barn rhanddeiliaid maes o law.