Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau Ionawr 2023 heddiw

Heddiw mae ymgeiswyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Cymru 2023

Heddiw, bydd myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Lefel 1/2 a chymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen.

Canlyniadau TGAU Cymru

  • Enillodd 96.9% o'r myfyrwyr yng Nghymru raddau A* - G
  • Enillodd 21.7% o fyfyrwyr A* - A
  • Enillodd 64.9% o fyfyrwyr raddau A* - C

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen

  • Enillwyd y Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol/Sylfaen gan 97.4% o fyfyrwyr
  • Llwyddodd 91.6% yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Heddiw, hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr TGAU a galwedigaethol ar yr hyn a gyflawnwyd ganddynt. Mae ymdrech a dyfalbarhad pob un ohonynt drwy gydol eu hastudiaethau'n amlwg yn eu canlyniadau. Dymunwn y gorau i bob un ar y daith tuag at addysg bellach, hyfforddiant, a chyflogaeth.

"Hoffem ddiolch i athrawon, tiwtoriaid, a swyddogion arholiadau sy'n gweithio yn yr ysgolion ledled y wlad am eu gwaith caled, ac am y gefnogaeth a'r ymrwymiad a ddangoswyd ganddynt wrth sicrhau bod cyfres arholiadau eleni'n mynd rhagddi'n llwyddiannus. Mae rôl y rhieni a gofalwyr yn anferth hefyd ac rydym am gydnabod hynny a diolch iddynt am gefnogi'r myfyrwyr wrth iddynt ennill eu canlyniadau heddiw."

Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw

Er mwyn cefnogi ymgeiswyr, athrawon a rhieni rydym wedi datblygu Tudalen Gwe Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Ar y dudalen hon, fe welwch chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi. Mae'n cynnwys manylion am Ffiniau Graddau, canllaw i'r broses apeliadau, a chysylltbwyntiau defnyddiol i gael cyngor ac arweiniad.

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:

Jonathan Thomas,
Rheolwr CC a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102