Gwneuthurwyr ffilmiau ifanc talentog ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau o fri
Rydym yn falch o gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer rownd derfynol y nawfed seremoni flynyddol Gwobrau Delwedd Symudol.
Mae’r gwobrau, a lansiwyd yn 2014 mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Ffilm Brydeinig, yn dathlu’r gwaith gorau a grëwyd gan fyfyrwyr Astudiaethau Ffilm a’r Cyfryngau 14-19 oed mewn ysgolion a cholegau o bob rhan o’r DU. Mae'r gystadleuaeth wedi ennill cefnogaeth gan bobl flaenllaw o fewn y diwydiant ffilmiau gan gynnwys yr adolygydd ffilmiau Anna Smith a'r sgriptwraig Kate Leys.
Gwnaeth Jenny Stewart, ein Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC/Eduqas sylw ar y rhestr fer: “Llongyfarchiadau i'r holl fyfyrwyr a gyflwynodd waith eleni. Gwnaeth ansawdd rhagorol y gwaith argraff ar y beirniaid a chawsant amser caled yn penderfynu ar y rhestr fer! Mae'r gwaith delwedd symudol a'r sgriptiau sgrin yn llawn dychymyg, yn atyniadol ac yn dechnegol soffistigedig. Diolch yn fawr i bob athro a myfyriwr am eich gwaith ardderchog. Rwy'n edrych ymlaen at ddathlu eich cyflawniadau gyda chi i gyd yn y seremoni.”
Mae'r rhestr fer lawn i'w gweld ar y wefan.
Amrywiaeth o dalent
Bob blwyddyn, mae gan ein panel o feirniaid uchel eu parch y dasg anodd o lunio rhestr fer ac yna dewis enillydd ar gyfer pob categori. Mae 5 categori i gyd: Ffilm Fer Orau, Fideo Cerddoriaeth, Animeiddio, Teledu/Detholiad Ffilm a Sgript.
Mae beirniaid yn parhau i gael eu syfrdanu gan ansawdd y cystadleuwyr, sy'n arddangos amrywiaeth o dalent ym mhob agwedd ar greu ffilmiau. Mae cystadleuwyr ac enillwyr blaenorol ar y rhestr fer ar gael i'w gweld o'n sianel YouTube.
Seremoni Wobrwyo
Bydd y 5 enillydd categori yn cael eu datgelu yn ein seremoni wobrwyo ddisglair a gynhelir yn y British Film Institute, Llundain ym mis Chwefror. Bydd gwesteion yn cael eu diddanu gan rai gwesteion arbennig iawn o'r diwydiant a fydd yn cael eu datgelu yn gynnar yn 2023.
Am wybodaeth bellach am y gwobrau, ewch i wefan Gwobrau Delwedd Symudol.