
Gwneud-i-Gymru: Cydnabod amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn
Mae Rachel Clarke, Ymgynghorydd Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chyfarwyddwr Apex Educate wedi gweithio ochr yn ochr â Thîm Datblygu Cymwysterau CBAC i ddatblygu eu cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig. Mae hi wedi cefnogi'r tîm i sicrhau bod y cymwysterau newydd hyn yn ymgorffori amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn. Yma mae hi'n amlinellu sut bydd eu dull arloesol yn cefnogi Cymru amlddiwylliannol a modern ar gyfer dysgwyr heddiw ac yfory.
![]() |
“Aeth CBAC ati mewn ffordd sy'n ddewr, yn feiddgar ac yn egwyddorol i sicrhau eu bod yn datblygu cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru. Mae CBAC wedi croesawu'r thema drawsbynciol o 'Amrywiaeth' gydag ymrwymiad bwriadol i sicrhau nad yw cynhwysiant, amrywiaeth a pherthyn yn docynistaidd ond yn hytrach yn rhywbeth dilys ac mae hyn wedi bod yn bwerus. Ni wnaeth CBAC benderfyniad byrbwyll cyn cychwyn ar y daith i sicrhau bod eu cyfres o gymwysterau yn cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm i Gymru. Yn hytrach, roedd eu hymagwedd yn feddylgar ac wedi'i hystyried yn ofalus. Fe wnaethant ymrwymo i adfyfyrio, datblygu a chael dealltwriaeth tymor hir, a arweiniodd yn y pen draw at y cymwysterau yn cael eu datblygu; nid yn unig i ddysgwyr heddiw, ond i Gymru'r dyfodol. |
Roedd dylanwad DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth) wrth gychwyn sgyrsiau dyfnach a mwy treiddgar am berthyn yn arwyddocaol. Fel un o'r partneriaid allanol sy'n rhan o'r daith hon, mae fy sefydliad Apex Educate wedi gweld drosto'i hun pa mor ddifrifol y mae CBAC yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb. Mae CBAC wedi creu lle ar gyfer deialog, herio a chydweithredu ystyrlon. Mae'r 'gwaith o'r galon' sy'n angenrheidiol ar gyfer ail-ddychmygu'r cymwysterau newydd a'u dyluniad wedi cymell arweinyddiaeth CBAC i sicrhau bod y broses ddatblygu hon wedi'i chynnal yn dda. Felly, mae'r ffordd yr aethpwyd ati (cynllunio mewn perthynas â datblygu staff, gwrando ar farn rhanddeiliaid, adolygu'r diwygiadau yn ofalus) wedi'i fesur a'i gynllunio, sydd wedi bod yn rhan bwysig o'r cynnydd a wnaed. Yn dilyn y Don gyntaf o gymwysterau, mae gwaith wedi dechrau i gwblhau Ton 2 a Thon 3. Gwnaeth CBAC benderfyniadau beiddgar ynghylch pa destunau a phynciau y dylid eu cynnwys yn eu cymwysterau newydd. Arweiniodd hyn at beidio â chynnwys testunau fel Of Mice and Men yn y fanyleb TGAU Saesneg newydd a chynnwys pynciau mwy byd-eang ac amrywiol yn y TGAU Hanes newydd. Gwnaed dewisiadau ar ôl ystyriaeth ddofn, gwrando gofalus, ac arweiniad gan y rhai sydd wedi byw'r profiad, yn ogystal â mewnbwn gan athrawon a Meysydd Dysgu a Phrofiad. Nid oedd y penderfyniadau hyn yn ymwneud â sensoriaeth neu ddiystyru hanes, ond maen nhw’n ymwneud â gofyn cwestiynau gwell. Lleisiau pwy sy'n cael eu cydnabod yn ein hystafelloedd dosbarth a sut? Straeon pwy sy'n cael eu hadrodd a rhai pwy sydd ar goll? Mae'r Tîm Datblygu Cymwysterau wedi gweithio'n galed ar ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain o gynhwysiant i sicrhau cyfatebiaeth â'r Cwricwlwm i Gymru a bod thema drawsbynciol Amrywiaeth wedi'i phlethu'n ddilys drwy ddyluniad y cymwysterau. Maen nhw wedi ymgymryd â'r her o ddad-ddysgu, ailddysgu, a llunio cymwysterau sy'n cyfleu'r byd fel y mae — ac fel y gallai fod. Nid yw amrywiaeth wedi cael ei hychwanegu fel ôl-ystyriaeth. Mae'n dod yn rhan annatod o’r cymwysterau eu hunain. Cynhaliwyd cyfarfodydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid i sicrhau bod safbwyntiau amrywiaeth eang o bobl (athrawon, uwch arweinwyr, cynrychiolwyr y consortia rhanbarthol ac eraill) yn cael eu clywed a'u hystyried. Mae'r math hwn o arweinyddiaeth yn bwysig. Nid yw'n berfformiadol. Mae'n ymatebol. Mae'n feddylgar ac yn cydnabod bod trawsnewid, pan gaiff ei wneud yn iawn, yn cymryd amser. Mae cymwysterau Ton 2 a 3 yn cael eu datblygu, ac maent yn cyfleu'r un ymrwymiad i gynhwysiant. Bydd y cymwysterau hyn yn rhoi cyfle cryf i ddysgwyr Cymru ffynnu yn y byd gwaith na allwn ei ddychmygu'n llawn eto. Mae ehangder y sgiliau a ymgorfforwyd a'r cyfleoedd i ddysgu am amrywiaeth o hanesion, hanes menywod, digwyddiadau a materion yn y byd go iawn, yn braf ac yn galonogol i'w gweld ac yn bwrpasol. O fewn cyd-destun byd-eang heddiw o ansicrwydd, mae blaenoriaethu dealltwriaeth a pherthyn, drwy ddysgu gyda'n gilydd ac am ein gilydd yn effeithiol, yn rhoi cenedlaethau'r dyfodol mewn sefyllfa dda; ar gyfer Cymru lle mae pobl ifanc yn tyfu i fyny yn gwybod bod eu hunaniaeth yn bwysig, bod eu straeon yn perthyn, a bod y dyfodol yn eu dwylo nhw. Mae cydnabod amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn hanfodol i sicrhau bod gwerthoedd parch a derbyn yn cael eu gweithredu. Er bod y cymwysterau newydd yn codi cwestiynau i addysgwyr ac yn cyflwyno heriau i'w goresgyn, petawn yn canolbwyntio ar ein dysgwyr, ein gwerthoedd a'n delfrydau cymdeithasol, bydd yr heriau sy'n gysylltiedig â newid yn haws eu goresgyn. Mae CBAC wedi, a bydd yn parhau i ddarparu mecanweithiau cefnogi i randdeiliaid i helpu i'w harwain drwy'r cyfnodau hyn. Oherwydd yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â mwy na dim ond cymwysterau. Mae'n ymwneud â chreu Cymru lle mae pob dysgwr yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei barchu ac yn barod i ffynnu mewn byd na allwn ei ddychmygu'n llawn eto. Dyna ddyfodol sy'n werth ei adeiladu.” |