Gostwng ffioedd cofrestru ar gyfer cymwysterau
Heddiw, rhoddom wybod i'n hysgolion a'n colegau yng Nghymru ein bod wedi gostwng ffioedd cofrestru ar gyfer cymwysterau gan 42% yr haf hwn, gostyngiad sy'n rhoi £8m yn ôl i ysgolion a cholegau yng Nghymru.
I gydnabod y gwaith ychwanegol a wnaed gan ysgolion a cholegau i gefnogi Graddau a Bennir gan Ganolfannau, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i roi cymorth ychwanegol o £1.6m i ganolfannau yng Nghymru, sy'n golygu y bydd y disgownt cyffredinol yn 50%.
Deallwn fod hon wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg i bob un ohonom yn y sector addysg a gwerthfawrogwn yr amynedd a'r gefnogaeth barhaus gan ein canolfannau wrth i ni gwblhau trefniadau ffioedd eleni.
Mae ffioedd cofrestru yn talu am amrywiaeth o gostau
Fel elusen, ni fyddem byth yn ceisio cymryd mantais o'r amgylchiadau presennol ac rydym wedi ymrwymo i ail-fuddsoddi a pharhau i wella'r gefnogaeth a ddarparwn i ysgolion, colegau a dysgwyr, fel y gwnawn bob blwyddyn.
Mae costau rhedeg a chyflwyno arholiadau'r haf yn rhan o'r hyn y mae ein ffioedd yn talu amdano; mae'r ffioedd hefyd yn ariannu'r gwaith o ddatblygu cymwysterau newydd. Mae hyn yn cynnwys cyfres newydd o Ddyfarniadau Galwedigaethol dwyieithog a fydd yn cael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf, a gwaith sylweddol ar gefnogi'r cwricwlwm newydd i Gymru.
Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth barhaus – gan gynnwys cyswllt uniongyrchol ag arbenigwyr pwnc, timau cefnogi canolfannau, adnoddau dwyieithog rhad ac am ddim, a chyfleoedd dysgu proffesiynol.
Cefnogi canolfannau yn ystod y flwyddyn eithriadol hon
Ar ôl canslo arholiadau'r haf hwn, rydym wedi datblygu amrywiaeth o systemau a phrosesau newydd i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn gradd ddilys yr haf hwn.
Rydym hefyd wedi buddsoddi'n sylweddol mewn pecyn cefnogi newydd, helaeth i helpu ysgolion a cholegau fel y gallant asesu eu dysgwyr yn hyderus. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi cynhwysfawr, deunyddiau asesu, enghreifftiadau, ac arweiniad proffesiynol manwl. Mae hyn yn cynnwys:
- Dros 3,000 o gyn-bapurau a chynlluniau marcio wedi'u haddasu
- Dros 900 o gyflwyniadau hyfforddi pwnc-benodol
- 16 o sesiynau hyfforddi – a wyliwyd dros 15,000 o weithiau
Cefnogaeth barhaus
Mae ein timau'n parhau i fod wrth law i gynnig cefnogaeth ac arweiniad parhaus i'n canolfannau. Yn ogystal, os hoffai unrhyw ganolfan gael unrhyw gyngor pellach ar unrhyw agwedd ar raddio ar gyfer Haf 2021, cysylltwch ag asesiadau2021@cbac.co.uk