Cofio Gareth Pierce, cyn Brif Weithredwr CBAC

Cofio Gareth Pierce, cyn Brif Weithredwr CBAC

Gyda thristwch mawr y clywsom ddoe am farwolaeth ddisymwth Gareth Pierce, ein cyn Brif Weithredwr.

Dros gyfnod o 14 mlynedd, cyfrannodd Gareth yn enfawr at waith CBAC ac roedd yn aelod blaenllaw iawn o’r gymuned addysg yng Nghymru a ledled y DU. Addysgu a dysgu oedd yn mynd â'i fryd. Edmygai ei holl gydweithwyr ei wybodaeth, ei ddealltwriaeth a'i ymrwymiad i addysg yn fawr.

Llywiodd Gareth ein sefydliad drwy gyfnod o newid sylweddol; bu’n ymwneud â diwygio cymwysterau yng Nghymru ac yn Lloegr, ysgogodd dwf a datblygiad CBAC yn barhaus a bu’n un o’r ffigurau canolog yn y broses o ddatblygu cymwysterau yng Nghymru.

Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:

'Cefais y fraint o gydweithio â Gareth dros sawl blwyddyn. Roedd ei ddeallusrwydd a'i allu i gymathu gwybodaeth mor gyflym yn syndod mawr i mi bob amser.'

'Byddai Gareth bob amser yn barod i wrando, ei feddwl bob amser yn agored, a bu'n ddylanwad mawr arnaf i ac ar sawl un arall. Roedd ei ymrwymiad i CBAC heb ei ail. Rwyf yn falch iawn o fod wedi'i adnabod ac i fod yn arwain y corff y cyfrannodd gymaint ato.

'Hoffwn gydymdeimlo'n ddwys â theulu Gareth, roedd yn meddwl cymaint ohonoch chi mi wn,' ychwanegodd.

Gan ysbrydoli ym mhopeth a wnaeth, gadawodd Gareth CBAC â sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol a bydd ei golled yn fawr i bawb ohonom. Cydymdeimlwn yn fawr â gwraig Gareth, Lynwen, a'i ddau fab, Gwyn a Siôn.