Fe welwn ni chi yn Eisteddfod Genedlaethol 2026!
Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol 2026.
Pryd? Dydd Sadwrn 1 Awst – dydd Sadwrn 8 Awst, 2026
Lle? Llantwd, Sir Benfro
Ynglŷn â'r digwyddiad
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw dathliad mwyaf y wlad o'r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth, cerddoriaeth, a'i diwylliant. 850 mlynedd ers yr Eisteddfod cyntaf, mae'r ŵyl eleni yn cael ei chynnal yn ardal y Garreg Las, wedi'i henwi ar ôl y garreg las enwog leol. Disgwylir tua 150,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos i ddathlu treftadaeth, creadigrwydd a diwylliant Cymru.
Pam ddim ymuno â ni? Gallwch archebu eich tocynnau yma.
Dyma oedd gan Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand, i'w ddweud am ein rhan eleni:
"Ar ôl y profiad gwerthfawr a llwyddiannus o fod yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd, rydyn ni'n hynod falch o fod yn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae'n achlysur gwych sy'n dathlu'r iaith Gymraeg, ei diwylliant a'r celfyddydau, ac rydyn ni'n edrych ymlaen unwaith eto i gysylltu â'n cymuned addysg drwy gydol yr ŵyl."
Cwrdd â'r tîm
Dewch i ddweud helo yn ein stondin, lle bydd hwyl i'w gael drwy amrywiol heriau a gemau, neu gallwch chi ymlacio gyda chelf a chrefftau a llyfr da.
Bydd ein tîm cyfeillgar wrth law yn ein stondin arddangos i ateb eich holl gwestiynau ynghylch ein cymwysterau Ton 3 newydd ac i arddangos ein hamrywiaeth diguro o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.
Pob Lwc!
Pob lwc i bawb fydd yn cymryd rhan yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Fe welwn ni chi yng ngogledd Sir Benfro!
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Facebook: CBAC/WJEC / Instagram: @cbacswyddogol