Eich canllaw i noson rhieni: Beth i'w ofyn a beth i'w ddisgwyl

Mae noson rhieni ar y gweill i lawer o ysgolion, ac efallai y bydd gennych ychydig o gwestiynau yr hoffech eu gofyn am gynnydd eich plentyn. Ond pan fyddwch chi'n cael cyfle i eistedd i lawr gyda'r athro, efallai na fyddwch chi'n siwr ble i ddechrau.

P'un ai dyma'ch noson rhieni gyntaf neu eich bod wedi mynychu sawl un o'r blaen, gall ychydig o baratoi eich helpu i gael llawer mwy o'r sgwrs.


Beth yw noson rhieni?

Yn syml, mae noson rhieni yn gyfarfod rhwng rhieni neu ofalwyr ac athrawon eu plentyn.

Mae'n rhoi cyfle i chi drafod cynnydd, cryfderau, meysydd i'w datblygu, ymddygiad a sut mae eich plentyn yn cymryd rhan mewn gwersi, yn ogystal â sut y gallwch gefnogi ei ddysgu o gartref.


Beth i'w ddisgwyl yn y noson rhieni

Os nad ydych erioed wedi bod i noson rhieni o'r blaen, neu os yw peth amser wedi mynd heibio ers yr un ddiwethaf, efallai nad ydych yn hollol siŵr beth i'w ddisgwyl. Y newyddion da yw nad oes dim byd rhy gymhleth yn ei gylch. Rydym wedi crynhoi'r prif bethau i chi...


Cyn noson rhieni

Bydd eich ysgol yn rhoi gwybod i chi pryd y cynhelir y noson rhieni ac yn egluro sut i drefnu eich apwyntiadau.

Mae'n werth cael gwrs gyda'ch plentyn cyn i chi fynd hefyd. Gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw'n meddwl eu bod yn gwneud, ac a oes unrhyw beth yr hoffen nhw i chi ei ofyn i'w hathrawon.


Yn ystod noson rhieni

Yn ystod noson rhieni, byddwch yn cael cyfle i gwrdd ag athrawon eich plentyn fesul un a chael sgwrs fer gyda phob un.

Efallai y byddant yn trafod cynnydd eich plentyn, ei gryfderau, sut mae'n cymryd rhan yn y dosbarth, ac unrhyw feysydd lle y gallai wella neu ddatblygu ymhellach.


Sut i baratoi ar gyfer noson rieni

Cymerwch 5 munud ymlaen llaw i feddwl am yr hyn rydych chi wir eisiau gwybod o'r sgwrs. Gallai rhai awgrymiadau gynnwys:

Cael sgwrs gyda'ch plentyn

Dechreuwch drwy ofyn i'ch plentyn sut maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n dod yn eu blaen. Efallai bod ganddyn nhw farn wahanol iawn i'r hyn rydych chi'n ei ddisgwyl.

Gallwch ofyn cwestiynau fel...

  • Pa bynciau rwyt ti'n eu mwynhau?

  • A oes unrhyw beth rwyt ti'n ei chael yn anodd?

  • Wyt ti'n teimlo dy fod ti'n dal i fyny â dy waith?

  • A oes unrhyw beth sy'n dy boeni di?

Edrychwch ar eu gwaith diweddar

Os oes gennych fynediad at adroddiadau, asesiadau, gwaith cartref neu waith wedi'i farcio yn ddiweddar, edrychwch yn gyflym drwyddo cyn noson rhieni. Chwiliwch am unrhyw beth sy'n sefyll allan. A oes pynciau lle mae'n ymddangos bod eich plentyn yn gwneud yn arbennig o dda, neu ddim mor dda?

Gwnewch restr fer o gwestiynau da i'w gofyn i bob athro

Mae'n hawdd cyrraedd noson rhieni ac wedyn anghofio'r holl gwestiynau roeddech chi eisiau eu gofyn. Gall rhestr fer ar eich ffôn neu ar ddarn o bapur helpu. Mae'n debyg na fydd amser i ofyn pob cwestiwn, felly rhowch flaenoriaeth i'r rhai sydd bwysicaf i chi a'ch plentyn.

Mae hyn yn ein harwain ni at ran olaf y blog...


Beth i'w ofyn yn ystod noson rhieni

A dweud y gwir, does dim rhaid i chi ofyn llawer o gwestiynau. Gall ychydig o gwestiynau da eich helpu i ddeall sut mae eich plentyn yn dod yn ei flaen a beth y gallai ei wneud i wella.

Er enghraifft:

  • Sut mae fy mhlentyn yn dod yn ei flaen yn y pwnc hwn?

  • A oes unrhyw beth rydych chi'n meddwl y dylen ni fod yn ymwybodol ohono?

  • A oes unrhyw destunau penodol y maen nhw'n cael anhawster gyda?

  • Beth yw'r peth mwyaf defnyddiol y gallwn ei wneud gartref i'w cefnogi?

  • A ydyn nhw'n cymryd rhan yn y gwersi?

  • A ydy nhw'n gallu canolbwyntio'n dda neu'n cael eu tynnu oddi ar y dasg yn hawdd?

Am ragor o flogiau defnyddiol i rieni a gofalwyr, ewch i'n tudalen blog sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd, ac yn cynnwys testunau fel 'Sut i gefnogi eich plentyn drwy eu cymwysterau TGAU a Safon Uwch'.