Edrych ymlaen at 2026 cyffrous 

Wrth i ni setlo i mewn i 2026, mae'r momentwm rydym wedi'i adeiladu gyda'n gilydd yn parhau i dyfu. Mae ein cydweithio parhaus wedi creu sylfaen gref, ac rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar hyn wrth i ni barhau i ddatblygu cymwysterau sy'n gwasanaethu dysgwyr ledled Cymru. 

Roedd 2025 yn flwyddyn o gydweithio a phartneriaeth wirioneddol. Roedd ein gwaith drwy ein grwpiau cynghori a'n gweminarau i Uwch Arweinwyr yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr a sianeli ar gyfer deialog sydd wedi cefnogi ein gwaith. Mae'r gweithgareddau ymgysylltu hyn yn fwy na dim ond uchafbwyntiau yn 2025; maen nhw'n sylfaenol i'r ffordd rydym yn gweithio. Mae'r dull cyd-awduro yn dal i fod yn ganolog i'r ffordd rydym yn datblygu cymwysterau, a bydd y grwpiau hyn yn parhau i gwrdd yn ystod 2026 a thu hwnt er mwyn sicrhau bod eich lleisiau yn llywio ein gwaith.  

Rwy'n falch hefyd o adfyfyrio ar ein Gwobrau Arloesedd, dathliad i orffen 2025 sy'n uchafbwynt i'r flwyddyn. Roedd y digwyddiad hwn yn arddangos creadigrwydd a dyfeisgarwch rhagorol ein dysgwyr Dylunio a Thechnoleg yng Nghymru. Llongyfarchiadau i Lewis Barnes, dysgwr o Ysgol Gyfun Brynteg, am ennill y wobr gyntaf UG a'r wobr Enillydd Cyffredinol am ei ddyluniad arloesol ar gyfer 'traciwr cyflymiad cychwyn o'r blociau'. Mae gweld eu talent a'u potensial yn ein hatgoffa pam mae dysgwyr yng Nghymru yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud, gan sicrhau ein bod yn datblygu cymwysterau a fydd yn eu gwthio i gyrraedd eu potensial yn llawn.   

Ton 2: Barod i'w cyflwyno  

Yn dilyn y llinell amser y cytunwyd arni gyda Cymwysterau Cymru, y llynedd cyhoeddwyd y manylebau wedi'u cymeradwyo ar gyfer Ton 2 ym mis Medi a'r Deunyddiau Asesu Enghreifftiol cyn gwyliau'r Nadolig. Ar 21 Ionawr, rhyddhawyd ein Canllawiau Addysgu. Mae'r holl ddeunyddiau hyn nawr yn rhan o becyn cynhwysfawr o ganllawiau i'ch cefnogi wrth baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymwysterau ym mis Medi.  

I gyd-fynd â'r pecyn cefnogi uchod, rydym wrthi'n datblygu ein pecynnau adnoddau Ton 2 newydd, gydag 85 o becynnau newydd eisoes yn fyw. Fel y gwyddoch, roedd ein sesiynau Dysgu Proffesiynol ledled Cymru yn llwyddiannus iawn yn 2025, gan ddangos cydweithio ac ymrwymiad anhygoel i'r cymwysterau newydd hyn. Mae amserlen 2026 ar gael erbyn hyn, a byddwn yn annog eich cydweithwyr i fanteisio ar y sesiynau gwerthfawr rhad ac am ddim hyn.  

Ton 3: Adeiladu ar sylfeini cryf  

Mae'r gwaith o ddatblygu ein cymwysterau Ton 3 yn mynd rhagddo'n gyflym. Mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi mai CBAC yw'r corff dyfarnu cyntaf i gael cymeradwyo rhai o'i gymwysterau Ton 3 14-16 Cenedlaethol gan Cymwysterau Cymru. Mae 4 TAAU a 3 cymhwyster Sylfaen Cyffredinol eisoes wedi'u cymeradwyo. 

Bydd ein cyfres newydd yn cynnwys Tystysgrifau Galwedigaethol gyda ffocws ar ddiwydiant ar gyfer Addysg Uwchradd (TAAU), Cyfres Sgiliau a chymhwyster Project Personol sy'n adeiladu ar lwyddiant ein Tystysgrif Her Sgiliau, ochr yn ochr â chymwysterau Sylfaen. Lluniwyd y cymwysterau hyn i gyd i ategu ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru presennol.   

Beth mae hyn yn ei olygu i'ch dysgwyr? Bydd ein cymwysterau Ton 3 yn ategu ein TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig newydd, gan ehangu'r llwybrau sydd ar gael i ddysgwyr. Fel eich partner naturiol, rydym yn llunio'r cymwysterau hyn i gynnwys y baich gweinyddol lleiaf posibl, gan gynnal ansawdd a thrylwyredd a'u hintegreiddio hefyd yn ddidrafferth yn eich darpariaeth bresennol.  

Yn bwysig, mae'r cymwysterau hyn yn cael eu datblygu gyda mewnbwn uniongyrchol gan gyflogwyr er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth ymarferol sy'n werthfawr i ddiwydiant. Bydd y dull hwn yn agor drysau i astudiaeth bellach a chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol i ddysgwyr ledled Cymru.  

Mae Sophie Dobbs, ein Cynrychiolydd Rhanbarthol Ton 3, yn dal i gydweithio'n agos ag ysgolion a cholegau ledled Cymru. Os hoffech chi drefnu ymweliad i drafod sut gallwn ni gefnogi eich anghenion penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Edrych ymlaen a gweithio gyda'n gilydd  

Mae croeso bob amser i aelodau ein cymuned addysg gynnal deialog gyda ni. Mae'r ymrwymiad yn parhau, ac yn rhan o hynny rwyf wedi trefnu ymweld ag ysgolion a cholegau ledled Cymru i glywed yn uniongyrchol gan athrawon, darlithwyr a dysgwyr am y profiadau maen nhw'n eu cael gyda'n cymwysterau ni. Bues ar ymweliad ag Ysgol Uwchradd Prestatyn i orffen 2025, a'r tymor hwn, ymwelais ag Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd, a byddaf yn ymweld ag Ysgol Dyffryn Aman ym mis Mawrth. Os hoffech chi drefnu ymweliad, yna gallwch gysylltu â mi drwy anfon neges at lorna.turner@cbac.co.uk.  

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi hefyd y bydd ein Gweminar nesaf i Uwch Arweinwyr yn digwydd ar ôl gwyliau'r Pasg. Bydd yn gyfle i drafod ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru a gofyn cwestiynau'n uniongyrchol i'n tîm arwain. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn ystod y misoedd nesaf.  

Wrth i ni symud drwy dymor y gwanwyn, mae gennym ddigwyddiadau cyffrous ar y gorwel. Ym mis Chwefror, byddwn yn y Gynhadledd Sgiliau ym Mhrifysgol Bangor yn trafod pwysigrwydd sgiliau a sut gall dysgwyr arddangos eu sgiliau nhw gyda'n cymwysterau ni. Ym mis Mawrth, byddwn yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Ravensbourne i gyflwyno cynhadledd arloesol ar y pwnc 'Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Addysg Sgrin'. Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio sut mae AI yn trawsnewid y diwydiannau sgrin a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer addysg ffilm a'r cyfryngau ar bob lefel.   

O ran y dyfodol, gyda'r cymwysterau Ton 1 yn cael eu haddysgu, cymwysterau Ton 2 yn barod i chi eu cynllunio, a Thon 3 yn dechrau datblygu, rydym yn adeiladu rhywbeth arbennig iawn i ddysgwyr Cymru. 


Ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth, ymroddiad, a phroffesiynoldeb parhaus.  

Gan ddymuno tymor llwyddiannus a llawn boddhad i bob un ohonoch.  

Yn gywir, 
Ian