Archwilio adnoddau CBAC Troseddeg newydd a grëwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Birmingham City

Dywedwch wrthym beth mae Troseddeg yn ei olygu i chi ac i'ch dysgwyr

Wrth i ni barhau i ymrwymo i gefnogi cymwysterau o safon, hoffem gael eich adborth ar werth ac effaith Lefel 3 Troseddeg.

Mae cymwysterau ôl-16 yn cael eu diwygio yn Lloegr*. Oherwydd hynny, rydyn ni'n awyddus i gasglu safbwyntiau darparwyr ar draws yr holl ardaloedd daearyddol i helpu i lunio sut y byddwn ni'n ymdrin â maes Troseddeg yn y dyfodol a sicrhau bod y cymhwyster yn parhau i fod yn cynnig gwerth i ddysgwyr a chanolfannau.

 Lluniwyd arolwg i gasglu tystiolaeth o alw, dilyniant a deilliannau sy'n gysylltiedig â Lefel 3 Diploma Cymhwysol mewn Troseddeg.  

Bydd y casgliadau yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch adolygu a pharhad cymwysterau ac yn cefnogi unrhyw ymgysylltu â gwneuthurwyr polisi, rheoleiddwyr a llywodraeth wrth i drafodaethau barhau ynghylch diwygio cymwysterau yn y dyfodol.

Cwblhewch ein harolwg erbyn 16/12/26 i'n helpu ni i ddeall yn well sut mae troseddeg o fudd i'ch dysgwyr.

Cwblhewch yr arolwg

*Noder, mae'r diwygiadau ôl-16 yn berthnasol i ddarparwyr a dysgwyr yn Lloegr yn unig.



Am yr arolwg

Noder os gwelwch yn dda, nid gofyn am adborth o ran cyflwyno cymwysterau na gwasanaeth i gwsmeriaid yr ydym ar hyn o bryd. Deallwn eich bod wedi rhannu adborth eisoes ynghylch trefniadau asesu dan reolaeth.  

Rhywbeth gwirfoddol yw cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Gallwch ddewis peidio â'i gwblhau neu roi'r gorau iddi ar unrhyw bwynt cyn cyflwyno eich ymatebion. 



Gwybodaeth am Breifatrwydd 

Byddwn yn defnyddio eich ymatebion at ddibenion ymchwil a dadansoddi yn unig. Gellir dadansoddi ymatebion ynghyd â gwybodaeth megis eich rôl chi, y math o ganolfan a rhif y ganolfan, a nifer y cofrestriadau Troseddeg. Bydd gwneud hynny'n ein helpu ni i ddeall gwahaniaethau o ran safbwyntiau ar draws lleoliadau addysgol ac i sicrhau bod unrhyw gasgliadau'n adlewyrchiad cywir o brofiadau'r gwahanol grwpiau rhanddeiliaid. 

Cedwir ymatebion i arolygon am hyd at 24 mis yn dilyn cwblhau'r project hwn a byddant wedyn yn cael eu dileu neu eu gwneud yn ddienw yn ddiogel. Gellir defnyddio technolegau ac offer dadansoddol Microsoft i helpu i adnabod themâu, patrymau a thueddiadau. Ni ddefnyddir unrhyw ymatebion i hyfforddi modelau AI cyhoeddus. 

Gofynnwn i chi beidio â chynnwys enwau dysgwyr, cydweithwyr neu unrhyw unigolion eraill y gellir eu hadnabod yn eich ymatebion. 

Adroddir canlyniadau'r arolwg ar ffurf grynswth lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Ni fydd unrhyw sylwadau neu ddyfyniadau a ddefnyddir mewn adroddiadau, cyflwyniadau neu wrth gyflwyno deunydd, os defnyddir hwy, yn cael eu priodoli i rolau neu ganolfannau a enwir. Byddwn yn cymryd camau rhesymol i ddileu, cyffredinoli neu gynnwys y manylion lleiaf a fyddai'n gallu golygu adnabod ymatebwr neu ganolfan unigol. Ni fyddwn yn casglu enwau unigolion, a gellir dileu neu gyffredinoli dangosyddion canolfannau lle bo angen gwneud hynny er mwyn diogelu cyfrinachedd. 

I ddiolch i chi am gymryd rhan, bydd canolfannau sydd wedi ymateb yn derbyn crynodeb o'r casgliadau, gan gynnwys canlyniadau ar ffurf grynswth a sylwadau dienw. 

Sail gyfreithlon CBAC dros brosesu ymatebion arolygon yw dilysrwydd buddiannau ar gyfer ymchwil a dibenion cynllunio sefydliadol. 

I gael gwybod mwy am sut mae CBAC yn prosesu gwybodaeth bersonol, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd CBAC.