Dysgu Proffesiynol i Athrawon

Yn CBAC, rydyn ni'n darparu dysgu proffesiynol i athrawon sydd wedi'i gynllunio o gwmpas ein cymwysterau, manylebau a gofynion asesu. Wedi'i gyflwyno gan arbenigwyr pwnc sydd â gwybodaeth helaeth am y cwricwlwm ac asesu, mae ein cyrsiau dysgu proffesiynol yn helpu athrawon i fagu hyder, dyfnhau eu dealltwriaeth o'r pwnc, a chefnogi llwyddiant myfyrwyr ym mhob cam o'u gyrfa addysgu. 

Os ydych chi'n newydd i CBAC, yn paratoi myfyrwyr ar gyfer asesiad, neu'n gobeithio gwella eich ymarfer ystafell ddosbarth, mae ein cyrsiau dysgu proffesiynol i addysgwyr yn cynnig canllawiau ymarferol sy'n canolbwyntio ar y cymhwyster y gallwch eu cymhwyso ar unwaith. 

Beth yw Dysgu Proffesiynol i Athrawon? 

Mae dysgu proffesiynol yn cyfeirio at broses barhaus o dwf, adfyfyrio a datblygu sy'n helpu athrawon i atgyfnerthu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hymarfer. I fod yn effeithiol, mae dysgu proffesiynol i athrawon yn cael ei gynnal dros amser ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i athrawon a dysgwyr, sy'n wahanol i sesiynau hyfforddi ar wahân. 

Mae dysgu proffesiynol yn gydweithredol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi'i ymgorffori mewn arferion addysgu bob dydd. Yn hytrach na bod yn ddigwyddiad untro, mae dysgu proffesiynol yn annog athrawon i werthuso, mireinio a datblygu eu dulliau yn barhaus. 

Efallai y byddwch hefyd yn clywed y term dysgu proffesiynol cyson (DPC) neu ddysgu proffesiynol parhaus (DPP). Mae'r ddau'n cyfeirio at ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol drwy gydol gyrfa athro. Mae dysgu a datblygiad proffesiynol yn cefnogi athrawon wrth ymateb i newidiadau yn y cwricwlwm, diweddariadau i asesiadau a blaenoriaethau addysgol sy'n datblygu. 

Pam Cymryd Rhan mewn Dysgu Proffesiynol gyda CBAC? 

Mae dysgu proffesiynol CBAC wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer athrawon sy'n darparu ein cymwysterau. Mae ein cyrsiau'n canolbwyntio'n uniongyrchol ar y manylebau, y meini prawf asesu a'r cynlluniau marcio sydd o'r pwys mwyaf yn yr ystafell ddosbarth, sy'n eu gwneud yn wahanol i gyrsiau dysgu proffesiynol generig i athrawon.  

1. Arbenigedd penodol i'r cymhwyster 

Mae ein cyrsiau dysgu proffesiynol yn cael eu creu a'u darparu gan arbenigwyr pwnc sy'n deall cymwysterau CBAC yn drylwyr ac sy'n gallu rhoi arweiniad ymarferol sy'n cyd-fynd â'r gofynion cyfredol. 

2. Dealltwriaeth o Asesu 

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth werthfawr o ddisgwyliadau asesu, dulliau marcio a heriau cyffredin i ddysgwyr, i'ch helpu i baratoi myfyrwyr yn fwy effeithiol at lwyddo mewn arholiadau. 

3. Cymhwysiad Ymarferol yn yr Ystafell Ddosbarth 

Mae pob cwrs wedi'i gynllunio i ddarparu strategaethau perthnasol ac ymarferol y gall athrawon eu defnyddio ar unwaith i gefnogi addysgu, dysgu ac asesu. 

Sut Rydym yn Cyflwyno Dysgu Proffesiynol 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau hyblyg ar gyfer dysgu proffesiynol i gyd-fynd â gwahanol ddewisiadau dysgu, amserlenni a nodau datblygiad proffesiynol. 

Gweminarau Ar-lein Rhad ac am Ddim 

Mae ein gweminarau yn cynnwys adborth ar yr asesiadau diweddaraf, yn amlinellu pwyntiau allweddol o adroddiadau uwch arholwyr/cymedrolwyr, ac yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i baratoi dysgwyr ar gyfer asesiadau sydd i ddod. Mae ein gweminarau'n ddelfrydol ar gyfer addysgwyr prysur oherwydd gallwch fynychu o bell, ac yn aml mae cyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i gael trafodaeth. 

Cyrsiau Wyneb yn Wyneb 

Mae ein cyrsiau dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb yn cynnig profiad dysgu cydweithredol lle gall athrawon ymgysylltu'n uniongyrchol ag arbenigwyr pwnc a chyd-ymarferwyr. Mae'r sesiynau hyn yn rhoi arweiniad ymarferol, ac yn darparu cyfleoedd i drafod ac i archwilio gofynion y cymwysterau yn fanylach. 

Adnoddau Ar Alw 

Ar gyfer athrawon sy'n ffafrio dysgu hyblyg, gellir cael mynediad at ein hadnoddau dysgu proffesiynol ar alw ar adeg sy'n gyfleus i chi. Mae'r deunyddiau hyn yn cefnogi dysgu proffesiynol yn rheolaidd ac yn galluogi athrawon i ailedrych ar gynnwys allweddol pryd bynnag y bo angen. 

Porwch drwy ein Cyrsiau Dysgu Proffesiynol 

Archwiliwch ein hamrediad llawn o gyrsiau dysgu proffesiynol ar draws pynciau, lefelau cymwysterau a fformatau cyflwyno. Defnyddiwch yr hidlwyr isod i ddod o hyd i'r cyfleoedd sy'n cyfateb orau i'ch rôl, maes pwnc ac anghenion datblygiad proffesiynol. 

Dysgu Proffesiynol ar gyfer Pob Cam' och Gyrfa Addysgu 

Newydd i CBAC 

Os ydych chi'n addysgu cymhwyster CBAC am y tro cyntaf, mae ein cyrsiau dysgu proffesiynol yn rhoi arweiniad hanfodol o ran ein manylebau, gofynion asesu a chyflwyno yn yr ystafell ddosbarth.  

Athrawon Profiadol 

Gallwch adeiladu ar eich arbenigedd presennol drwy gyfleoedd dysgu proffesiynol uwch sy'n archwilio datblygiadau o ran asesu, newidiadau i'r cwricwlwm a strategaethau addysgu effeithiol. 

Ystyried Newid i CBAC 

Os ydych chi'n meddwl am gyflwyno cymhwyster CBAC, gall ein cwrs dysgu proffesiynol i athrawon eich helpu i ddeall strwythur, cynnwys a dulliau asesu ein cymwysterau, gan gefnogi trosglwyddiad llyfn. 

Sicrhewch eich bod yn cael y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd 

Byddwch y cyntaf i glywed am gyrsiau dysgu proffesiynol sydd i ddod, gweminarau rhad ac am ddim, adnoddau newydd a'r wybodaeth ddiweddaraf am gymwysterau. Tanysgrifiwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd dysgu a datblygiad proffesiynol gan CBAC. 

Gallwch hefyd archwilio ein hamrediad llawn o gymwysterau i ddarganfod sut mae CBAC yn cefnogi athrawon a dysgwyr ar draws amrywiaeth eang o bynciau a lefelau. 

 

Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Dysgu Proffesiynol i Athrawon 

Beth yw dysgu proffesiynol i athrawon? 

Mae dysgu proffesiynol i athrawon yn cynnwys datblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer ystafell ddosbarth drwy gydol gyrfa addysgu. Mae'n canolbwyntio ar welliant parhaus sy'n cefnogi datblygiad athrawon a chanlyniadau myfyrwyr. 

Beth yw'r mathau o ddysgu proffesiynol? 

Gall dysgu proffesiynol fod ar sawl ffurf, gan gynnwys gweminarau ar-lein, hyfforddiant wyneb yn wyneb, adnoddau ar alw a chyfleoedd dysgu cydweithredol. Mae llawer o athrawon yn defnyddio cymysgedd o fformatau i gefnogi eu twf proffesiynol. 

Beth yw DPP i athrawon yng Nghymru? 

Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn cyfeirio at weithgareddau sy'n helpu athrawon i ddatblygu eu gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer proffesiynol, a gall gynnwys cyrsiau hyfforddi, gweminarau, gweithdai a chyfleoedd dysgu eraill. 

Sut mae DPP yn helpu athrawon? 

Mae DPP yn helpu athrawon i atgyfnerthu eu gwybodaeth am y pwnc, gwella arferion addysgu, a diweddaru eu gwybodaeth am y datblygiadau o ran y cwricwlwm ac asesu. Mae hefyd yn cefnogi canlyniadau gwell i fyfyrwyr. 

Pa gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd ar gael i athrawon yng Nghymru? 

Gall athrawon yng Nghymru gael mynediad at amrediad o gyfleoedd dysgu proffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant pwnc-benodol, cefnogaeth asesu a datblygu arweinyddiaeth. Mae CBAC yn cynnig cyrsiau, gweminarau ac adnoddau sy'n canolbwyntio ar gymwysterau a ddarperir gan arbenigwyr pwnc. 

A oes rhaid i athrawon wneud DPP yng Nghymru? 

Er nad oes gofyniad cyfreithiol i athrawon yng Nghymru gwblhau nifer penodol o oriau DPP, mae dysgu proffesiynol parhaus yn cael ei annog a'i gefnogi gan ysgolion yn rhan o ddatblygiad proffesiynol. 

Beth yw dysgu proffesiynol parhaus? 

Dysgu proffesiynol parhaus yw'r broses o ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol drwy gydol gyrfa addysgu, gan ganolbwyntio ar welliant parhaus drwy ddysgu, adfyfyrio a chymhwyso ymarferol. 

Sut rydw i'n cadw lle ar gwrs hyfforddi athrawon gyda CBAC?

Gallwch gadw lle ar gwrs dysgu proffesiynol CBAC drwy bori drwy'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ar y dudalen hon a dewis y cwrs sy'n cyd-fynd orau â'ch pwnc a'ch anghenion addysgu.