Dysgu Proffesiynol 2026/27: Cadwch eich lle heddiw!

Wrth i ni ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Rhaglen Digwyddiadau Dysgu Proffesiynol ar gyfer 2026/27 bellach yn fyw ac ar agor ar gyfer cofrestru. 

Wrth i ni barhau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, mae ein rhaglen dysgu proffesiynol wedi'i chynllunio i gefnogi ysgolion a cholegau ar bob cam o weithredu. P'un a ydych chi'n paratoi i gyflwyno cymhwyster am y tro cyntaf neu'n edrych i ddatblygu ar eich gwybodaeth bresennol, mae ein rhaglen gynhwysfawr yn darparu arweiniad ymarferol, arbenigedd pwnc a chyfleoedd i rannu arferion gorau. 

Mae ein rhaglen yn cefnogi cyflwyno cymwysterau ar draws Ton 1, Ton 2 a Thon 3, gan helpu athrawon i deimlo'n hyderus ac wedi'u paratoi'n dda drwy gydol y flwyddyn academaidd. 

Dysgu hyblyg sy'n addas i chi  

Mae'r rhaglen eleni yn cynnig cyfuniad o ddigwyddiadau ar-lein byw, sesiynau wyneb yn wyneb ac adnoddau ar alw, gan eich galluogi i ddewis y fformat dysgu sy'n gweddu orau i'ch anghenion. 

Mae ein rhaglen yn cynnwys: 

  • Sesiynau adborth Uwch Arholwr ac Uwch Gymedrolwr, sy'n cynnig mewnwelediadau gwerthfawr o asesiadau diweddar, wedi'u cefnogi gan enghreifftiau ymgeiswyr. 
  • Digwyddiadau wyneb yn wyneb thematig, sy'n darparu cyfleoedd i archwilio testunau allweddol yn fwy manwl, rhwydweithio â chydweithwyr ac ymgysylltu'n uniongyrchol ag arbenigwyr pwnc CBAC. 
  • Dysgu proffesiynol wedi'i recordio ymlaen llaw, sy'n eich galluogi i gael mynediad at arweiniad arbenigol ar adeg sy'n gyfleus i chi. 

Cyrchu adnoddau unrhyw bryd

Os na allwch fynychu sesiwn fyw, neu os hoffech ailymweld â digwyddiadau blaenorol, mae cyfoeth o adnoddau ar gael trwy ein Porth Diogel.  

Yma gallwch ddod o hyd i recordiadau o sesiynau dysgu proffesiynol, sleidiau cyflwyniadau, canllawiau ategol a deunydd enghreifftiol ymgeiswyr, gan roi mynediad i chi ar alw at gefnogaeth addysgu ac asesu gwerthfawr trwy gydol y flwyddyn. 

Cadw eich lle  

Ewch i'n gwefan i weld yr amserlen lawn a chofrestru ar gyfer digwyddiadau sydd i ddod.  

I archwilio'r dysgu proffesiynol sydd ar gael ar gyfer ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, ewch i adran Dysgu Proffesiynol ein gwefan a dewiswch y tab Ton 1, Ton 2 neu Ton 3 i ddod o hyd i'r cymorth sy'n berthnasol i'ch pwnc.