Dyfarnu ein cymwysterau Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol yn Haf 2021

Dyfarnu ein cymwysterau Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol yn Haf 2021

Eglurhad am drefniadau dyfarnu ein cymwysterau Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol yn Haf 2021 i'r dysgwyr hynny sydd ran o'r ffordd drwy eu cwrs

Gallwn bellach gynnig mwy o eglurhad am drefniadau dyfarnu ein cymwysterau Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol yn Haf 2021 i'r dysgwyr hynny sydd ran o'r ffordd drwy eu cwrs. Rydym wedi blaenoriaethu darpariaeth canlyniadau cymwysterau'r haf hwn, ond ar yr un pryd rydym yn ymwybodol bod amharu wedi bod ar ddysgu ac addysgu'r dysgwyr hynny sydd ran o'r ffordd drwy eu cymwysterau.

Fel y cyfathrebwyd yn flaenorol, ni chyhoeddir canlyniad uned i ddysgwyr Tystysgrif a Diploma Cymhwysol a gofrestrwyd am unedau'r haf hwn nad ydynt yn cyfnewid y cymhwyster, er enghraifft, dysgwyr ym Mlwyddyn 12 sydd ran o'r ffordd drwy gwrs Diploma Cymhwysol dwy flynedd.

I'r dysgwyr hyn, bydd y trefniadau canlynol ar waith ar gyfer dyfarnu ein cymwysterau Diploma Cymhwysol yn 2021:

Dewis 1: dysgwyr yn sefyll yr unedau Diploma ychwanegol yn unig yn haf 2021 a'r radd am y Diploma yn seiliedig ar y rhain yn unig.

Dewis 2a: dysgwyr yn sefyll holl unedau'r Dystysgrif yn hydref 2020 a/neu haf 2021 ac unedau'r Diploma yn Haf 2021. Mae gradd y Diploma yn seiliedig ar eu perfformiad ar draws yr holl unedau.

Dewis 2b: Gall dysgwyr ddewis cofrestru am unedau/asesiadau'r Diploma a rhai o unedau/asesiadau'r Dystysgrif

Os bydd dysgwr yn mynd am Ddewis 2(a) neu (b), byddwn ni hefyd yn cyfrifo'r radd y byddent wedi'i hennill pe byddent wedi mynd am Ddewis 1. Y radd orau o'r naill neu'r llall fydd yn cael ei dyfarnu. Drwy wneud hyn sicrheir tegwch i'r dysgwyr, waeth pa ddewis yr aethant amdano.

Dim ond y dysgwyr hynny a gofrestrwyd am asesiadau'r haf hwn ac a fyddant yn cwblhau eu cymhwyster Diploma Cymhwysol yn haf 2021 y mae'r trefniadau uchod yn berthnasol iddynt. Ni fydd y dewis hwn ar gael i ddysgwyr fydd yn cychwyn ar gymhwyster Diploma Cymhwysol ym mis Medi 2020 i'w gwblhau mewn blwyddyn.

Ni ellir defnyddio'r radd am y Dystysgrif a gyfrifwyd o haf 2020 wrth lunio'r radd Diploma yn haf 2021. Dim ond gradd sydd ar gael gennym eleni, ni chyhoeddir unrhyw sgorau Graddfa Marciau Unffurf. Nid yw'r radd a gyfrifwyd yn rhoi digon o fanylion i CBAC eu defnyddio wrth ddarparu gradd Diploma yn haf 2021. Felly, yr unig ddewis yng nghyfres haf 2021 yw'r hyn a nodir uchod.

Ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin – Cymwysterau Galwedigaethol i weld atebion i'r cwestiynau a ofynnir amlaf.