Dweud eich dweud! Cyfrannwch eich llais at ddyfodol TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
Mae pryderon wedi'u mynegi dros y misoedd diwethaf ynghylch llwyth gwaith athrawon mewn perthynas â chyflwyno'r cymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Gradd Unigol a Dwyradd) newydd.
Fel corff dyfarnu cyfrifol, rydym wedi cydweithio'n agos â phrif randdeiliaid er mwyn ystyried ffyrdd o wella hydrinedd y cymwysterau hyn. Ar sail hynny, rydym wedi dod i'r casgliad bod angen addasu'n sylweddol.
Newid at y dyfodol
Mae newidiadau arwyddocaol wedi'u hystyried gennym, gan gynnwys dileu asesiadau o unedau, asesiadau llafaredd yn eu plith. I wneud hyn byddai angen newid y Meini Prawf Cymeradwyo a ddatblygwyd i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Oherwydd hynny, mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Lle bynnag y bo'n bosibl, byddai unrhyw newidiadau a gymeradwyir yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer carfanau Blwyddyn 10 sy'n cychwyn ym mis Medi 2026.
Oherwydd bod strwythur y cymhwyster yn hyblyg ac unedol, mae'r gwaith a gyflawnwyd eisoes gan ganolfannau yn amrywio, ac mae llawer o ddysgwyr Blwyddyn 10 wnaeth ddechrau ar y cymhwyster ym mis Medi 2025 wedi cwblhau rhai o'r unedau yn barod. Mae'n bwysig bod graddau o fewn carfan yn gymharol, felly ni allwn gymhwyso'r newidiadau hyn ar gyfer dysgwyr wnaeth gychwyn ar y cymhwyster ym mis Medi 2025.
Rhannwch eich barn – ymgynghoriad ar agor yn awr
Cyn i ni symud ymlaen ag unrhyw newidiadau, hoffem gael adborth rhanddeiliad ar yr opsiynau rydym yn cynnig eu newid. Amlinellir y newidiadau arfaethedig ar ddechrau'r arolwg sydd i'w gael yma (cwblhewch yr arolwg erbyn 19 Mehefin 2026 os gwelwch yn dda): https://www.surveymonkey.com/r/RDWNN2D
Bwriadwn gyfleu canlyniadau'r ymgynghoriad, a chadarnhau unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt, cyn diwedd tymor yr haf.
Newidiadau eraill i'w rhoi ar waith o fis Medi 2026
Yn ogystal â'r newidiadau sylweddol y mae'r arolwg hwn yn eu hystyried, nodwyd y newidiadau canlynol a byddan nhw'n cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2026:
-
Dychwelyd o fod angen tystiolaeth glyweledol orfodol o asesiadau llafaredd i'r trefniant blaenorol o fod angen naill ai tystiolaeth sain neu dystiolaeth glyweledol o asesiadau llafaredd
-
Mewn blynyddoedd lle mae gorgyffwrdd, derbyn briffiau asesiadau di-arholiad sy'n dod i ben a'r rhai sy'n dechrau
-
Egluro bod modd cynnwys athrawon yn aelod o drafodaethau grŵp mewn achosion o absenoliaeth/gofynion arbennig
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â datblygucymwysterau@cbac.co.uk