Dweud eich dweud! Cyfrannwch eich llais at ddyfodol TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg

Mae pryderon wedi'u mynegi dros y misoedd diwethaf ynghylch llwyth gwaith athrawon mewn perthynas â chyflwyno'r cymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol a Dwyradd) newydd.  

Fel corff dyfarnu cyfrifol, rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â phrif randdeiliaid er mwyn ystyried ffyrdd o wella hydrinedd y cymwysterau hyn.  

Newid at y dyfodol

Ystyriwyd dileu asesiadau, gan gynnwys asesiadau llafaredd, o unedau. Ni allem nodi tasg ysgrifenedig na llafar i'w dileu na fyddai'n effeithio'n negyddol ar ddatblygiad sgiliau dysgwyr a'u dilyniant i UG a Safon Uwch. Ar ben hynny, ni fyddai'n briodol lleihau nifer y tasgau llafaredd gan y byddai hyn yn gwrthdaro â'r canolbwyntio ehangach ar lafaredd sy'n bresennol o ran polisi yn y pwnc Cymraeg.  

O ganlyniad, ac ar ôl trafod gyda Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru, cytunwyd na fyddwn yn dileu tasgau o'r cymhwyster. 

Mae sawl newid posibl y gellid eu gwneud, fodd bynnag, a allai helpu i wella hydrinedd yn y dyfodol. Byddai'r rhain yn cynnwys gwaith datblygu manwl a mwy o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Ni fyddai modd eu rhoi ar waith wedyn yn barod at garfan Blwyddyn 10 Medi 2026. Gellid cyhoeddi manyleb a deunyddiau asesu enghreifftiol diwygiedig erbyn diwedd Rhagfyr 2026 i'w haddysgu am y tro cyntaf ar gyfer carfan Blwyddyn 10 Medi 2027.    

Rhannwch eich barn – ymgynghoriad ar agor yn awr

Cyn i ni symud ymlaen ag unrhyw newidiadau, hoffem gael adborth rhanddeiliad ar yr opsiynau rydym yn cynnig eu newid. Amlinellir y newidiadau arfaethedig ar ddechrau'r arolwg sydd i'w gael yma (cwblhewch yr arolwg erbyn 19 Mehefin 2026 os gwelwch yn dda): https://www.surveymonkey.com/r/5JWJCR3 

Bwriadwn gyfleu canlyniadau'r ymgynghoriad, a chadarnhau unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt, cyn diwedd tymor yr haf. 

Newidiadau eraill i'w rhoi ar waith o fis Medi 2026

Yn ogystal â'r newidiadau y mae'r arolwg hwn yn eu hystyried, nodwyd y newidiadau canlynol a byddan nhw'n cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2026: 

  • Egluro y byddwn ni'n derbyn y briffiau asesu di-arholiad sy'n dod i ben a'r rhai sy'n cychwyn yn y blynyddoedd lle mae gorgyffwrdd 

  • Egluro bod modd cynnwys athrawon yn aelod o drafodaethau grŵp mewn achosion o absenoliaeth/gofynion arbennig 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â datblygucymwysterau@cbac.co.uk