Diwygiadau i'n cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru
Rydyn ni wedi parhau i wrando'n ofalus ar yr adborth a dderbyniwyd gan ysgolion a cholegau ynghylch yr heriau o ran cyflwyno rhai o'r cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd. Rydyn ni'n cydnabod bod yr ymrwymiad sy'n ofynnol i gyflwyno'r diwygiadau hyn – ynghyd â'r gofynion niferus eraill sydd ar arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion – yn sylweddol, ac mae ein hymrwymiad ni i'ch cefnogi chi drwy'r cyfnod o newid yn parhau.
Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweithio'n agos ag ymarferwyr a rhanddeiliaid i nodi camau ymarferol y gallwn ni eu cymryd i leihau'r baich gweinyddol gan gynnal uniondeb a dilysrwydd ein cymwysterau.
O ganlyniad, rydym wedi gwneud diwygiadau i bedwar cymhwyster TGAU Gwneud i Gymru:
- CBAC TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Gradd Unigol a Dwyradd)
- CBAC TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol a Dwyradd)
- CBAC TGAU Cymraeg Craidd
- CBAC TGAU Astudiaethau Crefyddol
Gallwch ddysgu mwy am y newidiadau hyn yn ein cylchlythyr i ysgolion a cholegau sydd ar gael drwy Porth.