Diweddariad pwysig ynghylch asesiadau Ionawr ein cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill (heb fod yn TGAU / TAG Safon Uwch)

Diweddariad pwysig ynghylch asesiadau Ionawr ein cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill (heb fod yn TGAU / TAG Safon Uwch)

05/01/2021

Ddoe (4 Ionawr 2021), cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y bydd ysgolion a cholegau Cymru yn parhau ar gau tan 18 Ionawr 2021. Hefyd, cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, fesurau cenedlaethol newydd i Loegr. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys cadarnhau na fydd ysgolion a cholegau Lloegr yn ailagor tan ar ôl hanner tymor mis Chwefror. Rydym yn ymwybodol felly bod angen cadarnhad ar y canolfannau sut y bydd hyn yn effeithio ar arholiadau galwedigaethol a chyffredinol eraill CBAC (heb fod yn TGAU / TAG Safon Uwch).

Arholiadau sy'n ychwanegol at ein hamserlen arholiadau ac asesu safonol yw'r arholiadau sy'n digwydd y mis hwn. Cawsant eu darparu er mwyn cynnig cyfle i'r dysgwyr hynny sy'n anhapus â'r radd asesu canolfannau a ddyfarnwyd iddynt yn Haf 2020 sefyll arholiadau ac ennill gradd newydd. Mae'n bosibl hefyd bod ymgeiswyr preifat nad oedd modd iddynt dderbyn gradd asesu canolfannau yn yr Haf sydd am sefyll yr asesiad ym mis Ionawr er mwyn gallu symud ymlaen. Mae llawer o'n harholiadau ar gael hefyd i ddysgwyr sy'n cofrestru am y tro cyntaf ar ôl i'w hathro benderfynu eu bod yn barod i'w hasesu.

Am y rheswm hwn, ar ôl trafod y mater â Cymwysterau Cymru, gallwn gadarnhau y bydd arholiadau ein cymwysterau galwedigaethol a chyffredinol eraill yn parhau ac yn dilyn yr amserlen arholiadau a gyhoeddwyd yma.

Credwn mai'r canolfannau eu hunain sy'n gwybod orau pa benderfyniadau i'w gwneud ar gyfer eu dysgwyr a gwerthfawrogwn y bydd uwch arweinwyr, athrawon, swyddogion arholiadau a phersonél eraill mewn canolfannau yn adolygu eu cynlluniau ar gyfer rheoli a darparu arholiadau ar fyrder. Deallwn y gall rhai canolfannau benderfynu nad ydynt mwyach am i'w dysgwyr sefyll arholiadau yng nghyfres Ionawr a chanolfannau eraill am barhau â'r trefniant hwn.

Ni fyddwn yn codi ffioedd hwyr a ffioedd diwygio ar gyfer cyfres Ionawr fel bod hyblygrwydd ar gael i ganolfannau wneud y penderfyniadau hynny sy'n gywir i'w dysgwyr nhw heb orfod ystyried yr effaith ariannol. Dylai canolfannau wneud eu gorau i gyflwyno eu diwygiadau erbyn dydd Gwener 20 Ionawr 2021.

Rydym yn parhau i gadw mewn cysylltiad â Cymwysterau Cymru, Ofqual a'r AA i sicrhau eglurhad am drefniadau arholiadau Haf 2021 a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth cyn gynted â phosibl.

Gwyddom fod hwn yn gyfnod hynod o bryderus i chi a'ch dysgwyr ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich amynedd wrth i ni geisio darparu'r atebion yr ydych am eu cael.