Diweddariad Coronafeirws: Sgiliau Hanfodol Cymru
Rydym yn croesawu datganiad Cymwysterau Cymru yn trafod sut dylai sefydliadau dyfarnu weithredu i ddyfarnu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru i ddysgwyr sydd i fod i gwblhau eu cymwysterau cyn diwedd mis Gorffennaf.
Byddwn yn darparu canlyniad wedi’i gyfrifo ar gyfer pob dysgwr er mwyn sicrhau nad ydynt o dan anfantais oherwydd y cyhoeddiad y byddai arholiadau ysgolion a cholegau Cymru’n cael eu canslo er mwyn atal lledaeniad y Coronafeirws (COVID-19).
Byddwn yn cydweithio hefyd â’r canolfannau i drafod y newidiadau i’r gofynion asesu yn achos dysgwyr sy’n cwblhau eu cymwysterau rhwng mis Awst a mis Tachwedd.
Darperir manylion pellach ar ein tudalennau gwe Sgiliau Hanfodol Cymru ac yn yr wythnosau i ddod, byddwn yn cysylltu â’n canolfannau i roi gwybodaeth fanwl iddynt o ran yr hyn fydd yn digwydd nesaf.
Hoffem ddiolch yn fawr i chi am barhau i’n cefnogi ac am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn sy’n heriol i bawb ond yn arbennig i’n dysgwyr a fydd am gael sicrwydd eu bod am dderbyn gradd am eu cymhwyster er mwyn gallu symud ymlaen.