Diweddariad Coronafeirws: Graddau Asesu Canolfannau

Diweddariad Coronafeirws: Graddau Asesu Canolfannau Haf 2020

Ar ôl canslo arholiadau'r haf, mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau ers hynny y bydd graddau'n seiliedig ar raddau asesu canolfannau.

Seilir graddau asesu canolfannau ar yr hyn y byddai athrawon yn ei ddisgwyl i bob dysgwr ei gyflawni i bob cymhwyster. Mae angen iddynt gynrychioli barn yr athro sy'n deg, yn rhesymol ac wedi'i hystyried yn ofalus o ran y radd y byddai'r ymgeisydd yn fwyaf tebygol o'i hennill dan amgylchiadau arferol. Gellir cyflwyno graddau asesu canolfannau o 1 Mehefin. Dylid defnyddio ein Gwefan Ddiogel i gyflwyno'r graddau hyn.

Dyddiadau cau:

TGAU, UG, Bagloriaeth Cymru, Project Estynedig: 12 Mehefin

Tystysgrifau Lefel Mynediad, Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol, Lefel 1 a Lefel 2 Tystysgrifau mewn Lladin, Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol, Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau, Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol, Iaith ar Waith, Cymraeg Gwaith a Llwybrau Ieithoedd: 19 Mehefin

 

Canllawiau Pwnc-benodol

 

I gynorthwyo canolfannau â'r gwaith hwn, lluniwyd cyfres o gyflwyniadau gan ein timau pwnc. Nod y cyflwyniadau hyn yw cefnogi'r athrawon wrth iddyn nhw ffurfio graddau asesu canolfannau manwl gywir i bob un o'n cymwysterau. Mae modd gweld pob un o'r cyflwyniadau drwy ein Gwefan Ddiogel, bydd Swyddog Arholiadau eich canolfan yn gallu rhoi manylion mewngofnodi i chi er mwyn i chi allu cael mynediad atyn nhw. Mae pob cyflwyniad yn trafod y materion canlynol o safbwynt y pwnc penodol:

  • Casglu ac ystyried tystiolaeth ymgeiswyr
  • Ffurfio barn addas
  • Sut i roi carfan y pwnc mewn trefn restrol


Mae'r canllawiau hyn ar gael i'w llwytho i lawr yn awr. Argymhellwn fod ein hathrawon yn darllen pob cyflwyniad sy'n berthnasol iddyn nhw yn llawn.


Hefyd, mae Swyddog Pwnc Drama, Wyn Jones, wedi paratoi canllaw fideo byr ar gyfer cymwysterau cyffredinol, a Sara Davies, Swyddog Pwnc Bagloriaeth Cymru, wedi paratoi canllaw fideo ar gyfer ein cymwysterau galwedigaethol. Ynddo, mae'n esbonio ymhellach yr hyn rydyn ni'n ei wneud i gefnogi canolfannau a dysgwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Mae ein timau pwnc wrth law i gefnogi athrawon o hyd ac yn barod iawn i gynnig cymorth ac arweiniad i chi. Gweithio o bell mae'r timau ar hyn o bryd. Anogir athrawon felly i anfon unrhyw negeseuon dros e-bost yn hytrach na ffonio. Mae cyfeiriad e-bost eich pwnc i'w weld ar dudalen y cymhwyster.

 

Gwerthfawrogwn eich holl gefnogaeth ac amynedd wrth i ni ddod drwy'r cyfnod heriol hwn gyda'n gilydd.