
Diweddariad am y Wybodaeth Ymlaen Llaw
Mewn llawer o bynciau addaswyd yr Asesiad Di-arholiad yn sylweddol ond nid oedd addasiadau ar gyfer yr unedau sy'n cael eu harholi. Gan ystyried y ffaith bod yr amharu'n parhau o ran addysgu a dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd hon, byddwn yn rhyddhau Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar dudalennau'r pynciau ar ein gwefan ar 7 Chwefror neu cyn hynny ar gyfer y pynciau ar y rhestr isod lle nad oes unrhyw drefniadau lliniaru ar gyfer yr unedau sy'n cael eu harholi.
Rhestr o'r Pynciau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
- TGAU Cyfrifiadureg Uned 1
- TGAU Bwyd a Maeth Uned 1
- TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gradd Unigol) Uned 1
- TGAU Cerddoriaeth Uned 3
- TGAU Addysg Gorfforol (gan gynnwys cwrs byr) Uned 1 ym mhob un
- UG TGCh Gymhwysol Uned 1
- UG Ffrangeg Uned 2
- UG Almaeneg Uned 2
- UG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Uned 1
- UG Cerddoriaeth Uned 3
- UG Addysg Gorfforol Uned 1
- UG Sbaeneg Uned 2
- Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Uned 3 ac Uned 5*
- Safon Uwch Addysg Gorfforol Uned 3
Beth yw pwrpas a swyddogaeth y Wybodaeth Ymlaen Llaw hon?
- Prif bwrpas y Wybodaeth Ymlaen Llaw hon yw rhoi gwybod beth y bydd rhai agweddau ar yr arholiad yn canolbwyntio arno er mwyn helpu dysgwyr i ganolbwyntio eu hadolygu; er enghraifft, rhywfaint o'r cynnwys, cyd-destunau, testunau gosod, testunau, is-destunau, themâu a sgiliau a asesir yn asesiadau 2022.
- Gall union natur y Wybodaeth Ymlaen Llaw amrywio yn ôl y pwnc, gan ddibynnu ar natur a dyluniad manyleb y cymhwyster a'i asesiadau.
- Ni fydd y wybodaeth hon ar lefel sy'n golygu y bydd modd ei defnyddio i ragfynegi cwestiynau na pharatoi atebion ac felly ni ddylid ei defnyddio i gyfyngu ar yr addysgu a'r dysgu.
- Gall canolfannau a dysgwyr ddefnyddio'r wybodaeth mewn ffordd hyblyg i gyflawni ei diben o ategu'r gwaith adolygu, ond ni ellir mynd â'r wybodaeth i mewn i arholiad.
Mae CBAC wedi addasu ei TGAU, UG a Safon Uwch yn 2022 er mwyn gwneud iawn am amser addysgu a dysgu a gollwyd ac unrhyw amhariad a all ddigwydd yn y dyfodol. Mae'r addasiadau hyn yn cydymffurfio â gofynion Cymwysterau Cymru.
Mae'r addasiadau a ryddhawyd yn gynharach eleni fel a ganlyn:
Gorffennaf 2021: Rhyddhawyd addasiadau i unedau Asesiad Di-arholiad a/neu unedau sy'n cael eu harholi ar gyfer pob cymhwyster CBAC TGAU a TAG. Mae'r addasiadau hyn yn:
- symleiddio'r cynnwys i'w asesu yn 2022
- lleihau gofynion yr Asesu Di-arholiad
- cyflwyno dewis i asesiadau naill ai drwy gynnig dewis o unedau neu ddewis o gwestiynau mewn uned.
Medi 2021: Rhyddhawyd Gwybodaeth Ymlaen Llaw gennym mewn perthynas â nifer bach o gymwysterau yr oedd yn anodd darparu'r addasiadau a ddisgrifir uchod ar eu cyfer (gallwch weld y wybodaeth ar dudalennau eich pwnc lle y bo'n berthnasol).
Hydref 2021: Llaciwyd rheolaethau cynnal yr Asesiad Di-arholiad
Mewn rhai pynciau, fel arfer, byddwn ni hefyd yn darparu fformiwlâu ar y papur arholiad i ddysgwyr eu defnyddio yn ystod yr asesiad.