Dysgwyr yn siarad efo siapiau pinc yn y cefndir a neges: Ton 3

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) ar gael yn awr ar gyfer cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3

Yn dilyn cyhoeddi manylebau ein cymwysterau Ton 3 Gwneud-i-Gymru wedi'u cymeradwyo, mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) ar gael erbyn hyn hefyd. Bydd yr adnoddau hyn yn cefnogi athrawon a darlithwyr wrth iddynt baratoi i addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.

Yn ei sylwadau am y cyhoeddiad hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:

Ian Morgan 1 (1)

"Mae rhyddhau'r Deunyddiau Asesu Enghreifftiol yn nodi cam pwysig o ran cefnogi ysgolion a cholegau wrth iddynt ddechrau cyflwyno'r cymwysterau newydd cyffrous hyn. Gyda'r DAE gallwch weld yn gynnar sut bydd arddull yr asesu yn edrych, a hefyd y cynlluniau marcio sy'n cydfynd â hynny. Bydd yn helpu addysgwyr i fynd ati'nhyderus i baratoi ar gyfer y gyfres asesu gyntaf.

Mae'r deunyddiau hyn yn ffurfio rhan o becyn cefnogi cynhwysfawr sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer pob cymhwyster. Ynghyd â'r fanyleb a'r DAE wedi'u cymeradwyo, bydd y pecyn hwn yn cynnwys Canllawiau Addysgu ac amrywiaeth o adnoddau digidol addasadwy, rhad ac am ddim. 

Byddwn ni hefyd yn darparu rhaglen hyfforddi ddwyieithog ar alw, wedi'i hategu gan sesiynau cyfnos pwnc-benodol a chyfarfodydd Fforymau Pynciol rheolaidd.

Gyda'i gilydd, bydd yr adnoddau a'r cyfleoedd dysgu proffesiynol hyn yn ategu cyflwyniad effeithiol ac yn helpu i sicrhau bod y cymwysterau'n cyfateb i ddyheadau'r Cwricwlwm i Gymru."

Caiff y DAE eu llunio i ddangos sut y gellir asesu cynnwys cymhwyster cyn y bydd deunyddiau asesu byw ar gael. Maen nhw'n helpu athrawon, darlithwyr a dysgwyr i ddeall gofynion asesu drwy ddarparu cwestiynau enghreifftiol a chynlluniau marcio dangosol y gellir eu defnyddio'n rhan o addysgu, dysgu a pharatoad ar gyfer asesu.

Mae'r DAE ar gael yn awr i'w lawrlwytho o dudalennau'r cymwysterau canlynol:

Gyda'i gilydd, mae'r cymwysterau hyn yn garreg filltir arwyddocaol arall yn rhaglen diwygio cymwysterau genedlaethol Cymru. Drwy eu datblygu, mae CBAC yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i sicrhau ei fod yn darparu cymwysterau o safon, y mae'r dysgwyr yn ganolog iddynt sy'n bodloni anghenion ysgolion, colegau, dysgwyr a chyflogwyr ar draws Cymru. 
 
Defnyddio DAE

Argymhellwn fod athrawon a darlithwyr yn defnyddio'r cwmpas llawn o gefnogaeth a fydd ar gael wrth gyflwyno ein cymwysterau, mae hyn yn cynnwys ein Manylebau, DAE, Canllawiau Addysgu ac adnoddau. 

Gellir defnyddio deunyddiau asesu enghreifftiol fel rhan o weithgareddau wedi’u cyfeirio gan athrawon, neu weithgareddau wedi’u cyfeirio gan ddysgwyr. Gellir eu defnyddio fel ymarfer ar gyfer arholiad unwaith bydd y dysgu ar gyfer y testun neu'r uned wedi'i gwblhau. Gellir hefyd eu defnyddio fel canllaw ar gyfer athrawon neu ddysgwyr i greu eu cwestiynau eu hunain. Bydd hyn yn gwerthuso'r dysgu ac yn nodi'r meysydd i wella. Mae'n bwysig iawn deall mai pwrpas y DAE yw dangos sut gall asesiad edrych yng nghyfresi arholiadau'r dyfodol. Felly, dylid eu  defnyddio unwaith y bydd y dysgu wedi'i gwblhau. 

Yn unol ag amserlen Cymwysterau Cymru, byddwn yn cyhoeddi Canllawiau Addysgu ym mis Ionawr; bydd y Canllawiau hyn yn cefnogi athrawon wrth baratoi at asesu ac yn nodi'r cyfleoedd i gynnwys agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau. 


Cefnogaeth gynhwysfawr i ganolfannau

Rydym wedi datblygu pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth ddwyieithog i helpu'r ysgolion a cholegau baratoi ar gyfer addysgu am y tro cyntaf. Mae'r gefnogaeth hon yn cynnwys:

  • Adnoddau Digidol Rhad ac Am Ddim – cyfres o adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog y gellir eu golygu, yn cynnwys deunyddiau dysgu cyfunol, taflenni gwaith, canllawiau addysgu a threfnyddion sgiliau a gwybodaeth.

  • Dysgu Proffesiynol – rhaglen o hyfforddiant dwyieithog ar alw, wedi'i hategu gan sesiynau cyfnos pwnc-benodol a chyfarfodydd Fforymau Pynciol rheolaidd.

  • Cefnogaeth Ranbarthol Pwrpasol: Mae ein Cynrychiolydd Rhanbarthol, Sophie Dobbs, ar gael i gefnogi ysgolion a cholegau, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. I drafod y cymwysterau newydd neu i drefnu cyfarfod, anfonwch e-bost at ton3@cbac.co.uk.

  • Mae ein Tîm Cefnogaeth Ranbarthol Cymru wrth law hefyd i ateb eich cwestiynau am gymwysterau Project Personol a Sgiliau yn CefnogiSgiliauCymru@cbac.co.uk.


Darganfod mwy 

Ewch i'n tudalennau gwe Ton 3 pwrpasol i lawrlwytho'r manylebau wedi'u cymeradwyo ac edrych ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, yna cysylltwch â ni drwy e-bostio ton3@cbac.co.uk

Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio ag ysgolion a cholegau wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno'r cymwysterau newydd cyffrous hyn o fis Medi 2027.