Brwdfrydedd dros gydweithio a chyd-awduro

Dathlu ein cyflawniadau ac edrych ar ddatblygiadau cyffrous yn y dyfodol

Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau, sy'n edrych yn ôl ar sut rydym wedi mynd ati i  gyd-awduro wrth  ddatblygu ein cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig a'r hyn sydd ar y gweill ar gyfer 2024.

Wedi ymuno â CBAC bron i 12 mis yn ôl, mae'n teimlo'n briodol myfyrio ar y cyfnod hwnnw, a'r cynnydd rydym wedi'i wneud wrth greu'r cymwysterau cyffrous hyn.

Roedd CBAC yn dathlu 75 mlwyddiant eleni, a thrwy weithio yma, mae'r ymrwymiad a'r angerdd dros greu cymwysterau sydd wir yn addas ar gyfer y dyfodol yn amlwg i'w weld. Mae CBAC wedi buddsoddi'n fawr yn y project hwn, gan gynnwys ehangu ein tîm o Swyddogion Datblygu Cymwysterau gwybodus a thalentog. At hynny, rydym wedi recriwtio dros 110 o awduron ac adolygwyr ychwanegol i gefnogi'r gwaith o gyd-awduro'r cymwysterau.

Dechreuon ni'r flwyddyn drwy gydweithio'n agos â'n rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, gan gyfrannu at y trafodaethau ynghylch penderfynu’n derfynol ar y Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y pynciau. Yna, cafodd ein  hegwyddorion a'n canllawiau ni ynghyd â’r Meini Prawf hyn eu defnyddio fel  sylfaen i'n gwaith.

Drwy gydol y cyfnod datblygu dwys hwn, rydym wedi ymrwymo i gydweithio ac ymgysylltu, er mwyn sicrhau bod ein cymwysterau’n gynhwysol, yn ddiddorol ac yn cefnogi’r cwricwlwm. Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud eleni wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa gref wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd a chychwyn cyhoeddi Amlinelliadau terfynol y Cymwysterau a drafftio'r manylebau.

Cydweithio gyda'n partneriaid

Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn nodwedd annatod o'n dull o gyd-awduro, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni.

Er enghraifft, er mwyn sicrhau bod ein cymwysterau newydd yn cyd-fynd ag anghenion esblygol ein cymdeithas amrywiol a dynamig, rydym wedi gweithio'n agos â DARPL. Maen nhw wedi bod yn barod i wrando arnom ac i ymateb i'n ffordd o feddwl gan fod yn barod iawn i roi adborth adeiladol.

O’r gwaith hwn y deilliodd ein hegwyddorion arweiniol ac yn y flwyddyn newydd, byddwn yn rhoi diweddariad manwl ar ein gwaith yn y maes hwn.

Ymgysylltu ag arbenigwyr addysgu

Rydym hefyd wedi cryfhau ein cysylltiadau ag ysgolion a cholegau yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys sefydlu Grwpiau Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau ar gyfer pob pwnc, sy'n cynnwys dros 170 o staff addysgu o dros 100 o ganolfannau ledled Cymru.

Mae gwrando ar leisiau'r gymuned addysgu yn cynnig cipolwg ymarferol ar sut gellir mewnblannu’r cymwysterau hyn yn llwyddiannus mewn gwahanol ganolfannau.

Gwrando ar leisiau ein cymunedau addysg

Ynghyd â'n partneriaethau, rydym wedi cymryd camau i ymgysylltu â sefydliadau ar draws y byd addysg a thu hwnt. Drwy ein Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau, Grŵp Rhanddeiliaid Cyffredinol a Grŵp Cyfeirio’r Undebau, rydym wedi ymgysylltu â dros 50 o sefydliadau yn amrywio o fusnesau i Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn rhoi llwyfannau i ni ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, i hwyluso trafodaethau gweithredol, arddangos ein cynnydd a darparu diweddariadau amserol.

Roeddem hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig ystyried llais ein dysgwyr, a arweiniodd at greu ein Grŵp Cynghori Dysgwyr newydd. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn. Cawsom dros 50 o geisiadau ac mae ein grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o gefndiroedd amrywiol o ran ethnigrwydd, rhywedd a phrofiadau dysgu. Roedd y cyfarfod cyntaf yn ysbrydoledig, ac rydym yn teimlo ein bod yn clywed llais gwirioneddol y bobl ifanc yng Nghymru. Mae'r tîm yn edrych ymlaen at ein cyfarfod nesaf yn barod!

Arddangos ein datblygiad a chasglu adborth

Mae wedi bod yn fraint cyfarfod â chymaint o bobl y bydd y datblygiad yn berthnasol iddyn nhw mewn digwyddiadau ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn, gan amrywio o athrawon yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri i ASau ac uwch swyddogion mewn sesiwn friffio dros frecwast a gynhaliwyd yn y Senedd. Mae'r digwyddiadau hyn yn caniatáu i ni drafod sut bydd y cymwysterau newydd yn cefnogi'r broses o roi'r cwricwlwm newydd ar waith ac i wrando'n uniongyrchol ar adborth. Gan edrych ymlaen at 2024, byddwn yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn barod ac yn chwilio am gyfleoedd newydd i'ch cyfarfod. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu sgyrsiau ac os hoffech chi drafod ein dull, anfonwch e-bost at datblygucymwysterau@cbac.co.uk.

Hoffwn hefyd ddiolch i bob un ohonoch chi am gymryd yr amser i roi adborth yn ein Hymgynghoriadau Amlinelliadau Cymwysterau. Mae'r ymatebion a roddwyd yn ddefnyddiol iawn ac mae ein tîm yn adolygu'r deunydd ac yn edrych ymlaen at gyhoeddi'r amlinelliadau terfynol fis Ionawr.

Edrych tua'r dyfodol

Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar Amlinelliadau'r Cymwysterau ac yn paratoi ar gyfer drafftio ein manylebau. Fodd bynnag, mae gwaith eisoes ar y gweill i ddechrau rhannu mwy o wybodaeth ar ein cynnydd a phartneriaethau yn y flwyddyn newydd.

Am y tro, hoffwn ddymuno seibiant dymunol i chi, ond edrychaf ymlaen at rannu rhagor o ddiweddariadau ar y datblygiadau cyffrous hyn â chi yn 2024.

Delyth

 


 

Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newyddion, y cyfleoedd a'r Cwestiynau Cyffredin ynghylch y TGAU newydd, eich i'n hardal we 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Mae CBAC yn barod'. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.