Dathlu 2022 ac edrych ymlaen at 2023 lewyrchus

Dathlu 2022 ac edrych ymlaen at 2023 lewyrchus

Ian Morgan

Neges gan ein Prif Weithredwr, Ian Morgan

Wrth i ni ddod at ddiwedd tymor yr Hydref arbennig o brysur, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi a'ch timau am yr holl broffesiynoldeb, ymrwymiad, a gwaith caled rydych chi wedi'i ddangos drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r cydweithredu effeithiol rhwng CBAC a'r ysgolion a cholegau wedi bod yn hynod bwysig unwaith eto eleni, ac ymysg ein cyflawniadau mwyaf oedd y dychwelyd yn llwyddiannus i arholiadau am y tro cyntaf ers 2019. Y cyd-ymrwymiad hwn i roi'r cyfle i ddysgwyr ddangos yr hyn y maen nhw'n ei wybod a'i ddeall, ac y gallant ei wneud, sy'n parhau i sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant, a chyflogaeth.

Rydym hefyd wedi cyrraedd sawl carreg filltir arall eleni gan gynnwys sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer ein cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned addysgu am eu cefnogaeth ac yn falch o weld yr adborth cadarnhaol gan ysgolion a cholegau sy'n paratoi i gyflwyno'r cymhwyster newydd hwn o fis Medi 2023 ymlaen.

Mae ein timau hefyd wedi bod yn brysur yn cefnogi ysgolion a cholegau wrth iddynt ddechrau cyflwyno ein cyfres Cymwysterau Galwedigaethol Lefel 1 / 2 newydd. Mae cynyddu ein darpariaeth o gymwysterau galwedigaethol yn bwysig i ni, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ehangu’r hyn sydd gennym i’w gynnig fel cymwysterau Lefel 3 yn y dyfodol.

Eleni hefyd mae cyfnod o newid wrth i Elaine Carlile, ein Cyfarwyddwr Cymwysterau, Asesu a Swyddog Cyfrifol adael CBAC ar ôl dros 15 mlynedd o wasanaeth ymroddedig. Ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch i Elaine am ei gwaith eithriadol, a hoffwn longyfarch Richard Harry, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau, Prosesu ac Ymchwil) presennol a fydd yn cymryd yr awenau ganddi ym mis Ionawr.

Ac yn olaf, ar ôl absenoldeb o 2 flynedd oherwydd y pandemig, buom yn dathlu dychweliad hirddisgwyliedig ein Gwobrau Arloesedd blynyddol. Mae'r gwobrau, a noddir yn garedig gan Lywodraeth Cymru, yn dathlu'r projectau mwyaf dyfeisgar a grëwyd gan ddysgwyr Dylunio a Thechnoleg ar draws Cymru. Roedd safon y ceisiadau'n aruthrol, sy'n sicrhau dyfodol disglair i ddylunio ac arloesedd yng Nghymru.

Wrth i ni edrych ymlaen at 2023, mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi cadarnhau y bydd dysgwyr sy'n gwneud asesiadau yn cael gwybodaeth ymlaen llaw i'w cynorthwyo wrth ddysgu ac adolygu. Mae ein timau wrthi'n paratoi’r deunyddiau hyn yn derfynol, a byddant yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Chwefror. Bydd ysgolion a cholegau'n cael gwybod unwaith y byddant ar gael.

Mae’n bwysig hefyd ein bod yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod o ran ein rôl yn cefnogi menter Cymwysterau Cymru, Cymwys ar gyfer y Dyfodol. Unwaith y bydd canlyniad eu hymgynghoriad wedi’i gyhoeddi y flwyddyn nesaf, bydd ein timau pwnc yn dechrau ar y gwaith datblygu ar gyfer cyfres newydd o gymwysterau TGAU. Byddwn yn gofyn am adborth ein rhanddeiliaid ac yn ymgysylltu â'r gymuned addysgu trwy gydol y broses hon er mwyn sicrhau bod cymwysterau Cymru'n parhau i fod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Am y tro, dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd lewyrchus i bawb. Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth barhaus ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi yn 2023.

Yn gywir

Ian