Cymwysterau TGAU newydd, cyfleoedd newydd: Yn barod i gyflwyno 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol’

Cymwysterau TGAU newydd, cyfleoedd newydd: Yn barod i gyflwyno 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol’

Wrth i ni agosáu at ddiwedd cyfres arholiadau'r haf hwn, gobeithiwn fod y tymor wedi mynd yn dda. Rydym yn hyderus bod ein hasesiadau wedi galluogi eich dysgwyr i arddangos yr hyn y maent yn ei wybod ac yn ei ddeall a'r hyn y gallant ei wneud. Mae ein harholwyr eisoes yn brysur yn marcio miloedd lawer o bapurau arholiad; byddwch yn dawel eich meddwl bod y broses yn drylwyr, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich dysgwyr yn cael graddau dilys, dibynadwy a theg ym mis Awst.

Wrth edrych i'r dyfodol, rwy'n falch o allu rhannu rhai datblygiadau a diweddariadau newydd pwysig gyda chi. Fel y gwyddoch, bydd Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi eu Hadroddiad Terfynol a'u Meini Prawf Pwnc ar gyfer cyfres o gymwysterau TGAU newydd, fel rhan o'u menter "Cymwys ar gyfer y Dyfodol". Er ein bod yn aros i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o baratoi i ddatblygu'r amrywiaeth gyffrous hon o gymwysterau TGAU wedi'u gwneud i Gymru.

Er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi, rydym wedi lansio tudalen we yn ddiweddar sy'n llawn gwybodaeth am ein gwaith datblygu cymwysterau. Rwy'n eich annog i gymryd ychydig funudau i fwrw golwg ar y  rhain a dysgu mwy am ein tîm Datblygu Cymwysterau.

Fel rhan o'n proses ddatblygu, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio dull cyd-awduro, a byddwn yn ymgysylltu'n weithredol â rhanddeiliaid yn ystod y broses hon. Rydym felly, wrth ymrwymo i weithredu fel hyn, yn chwilio am randdeiliaid, gan gynnwys athrawon a darlithwyr ledled Cymru, i ymuno â'n Grwpiau Cynghori. Mae eich mewnbwn a'ch cydweithrediad yn hanfodol i greu'r gyfres newydd hon, a gobeithiwn y byddwch yn ystyried ymuno â'r grwpiau hyn.

Tra bod eich dysgwyr yn aros am eu canlyniadau, rydym wedi paratoi set newydd o fideos sy'n eich tywys drwy daith ein papurau arholiad, o'u creu i'w proses farcio. Yma fe welwch yr hyn sy’n digwydd  y tu ôl i'r llenni, gan edrych ar yr holl waith sy'n rhan o  sicrhau proses asesu ddilys, dibynadwy a theg.

Byddwn hefyd yn lansio ein rhaglen Dysgu Proffesiynol newydd cyn diwedd y tymor. Datblygwyd ein hamserlen newydd gyda dealltwriaeth o'r pwysau ariannol y mae ysgolion a cholegau yn eu hwynebu, ac felly bydd yn cynnwys, am y tro cyntaf, cyfleoedd adborth ar-lein arholiadau cyfres Haf 23 ar gyfer pob pwnc, yn ogystal â mynediad at sgriptiau am ddim i'w defnyddio fel dulliau addysgu ac enghreifftiau ar gyfer addysgu yn y dyfodol. Fel bob amser, bydd ein timau pwnc yn parhau i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch bob cam o'r ffordd, o gynllunio a pharatoi i asesu a dyfarnu. Bydd rhagor o ohebiaeth yn manylu ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael yn cael ei hanfon atoch maes o law.

Yn ogystal â'r datblygiadau hyn, mynychais i ac aelodau o bob rhan o'r busnes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yn ddiweddar lle cawsom gyfle i gwrdd ag athrawon, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill o bob rhan o Gymru. Roedd yn wych cysylltu â chymaint ohonoch wyneb yn wyneb, a gweld perfformiadau cymaint o ddysgwyr dawnus Cymru.

Mae ein gwaith gydag ysgolion yng Nghymru wedi parhau eleni, a chefais y fraint o ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Gyfun Llangynwyd i gyfarfod ag athrawon, penaethiaid a dysgwyr, yn ogystal â Fforymau Penaethiaid yn Wrecsam a Chonwy. Mae'r ymweliadau hyn yn allweddol wrth gyfoethogi cyfathrebu a dealltwriaeth o'n gwaith, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymgysylltu ag addysgwyr a dysgwyr yn y cymunedau hyn, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn croesawu'r cyfle i ymweld â'ch ysgol neu goleg ac rwy'n eich annog i gysylltu â mi drwy lorna.turner@cbac.co.uk i wneud y trefniadau angenrheidiol.

Rydym yn hyderus y bydd y mentrau newydd hyn yn cryfhau ymhellach ein hymrwymiad i ddarparu'r profiad dysgu gorau posibl i ddysgwyr. Diolch am eich cefnogaeth barhaus, a dymunwn y gorau i chi ar gyfer gweddill tymor yr haf.

Yn gywir

Ian

21/06/2023