Cymwysterau Project Personol CBAC – Wedi'u cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru
Mae CBAC yn parhau i arwain y ffordd o ran diwygio cymwysterau i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, gan ddod y corff dyfarnu cyntaf i gael cymwysterau Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2 y Project Personol wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru fel rhan o Don 3 y cymwysterau Cenedlaethol 14–16.
![]() |
"Mae ein cymwysterau Project Personol yn elfen graidd o'r cymwysterau seiliedig ar sgiliau sy’n cael eu cynnig, gan rymuso dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu llwybrau yn y dyfodol. Fel y corff dyfarnu cyntaf i gael cymeradwyaeth i gyflwyno'r cymwysterau, rydym yn falch o ddangos ein harweinyddiaeth wrth ddylunio a chyflwyno cymwysterau o ansawdd uchel sy'n cefnogi dilyniant ystyrlon a pharhaus. |
Gan adeiladu ar lwyddiant y Project Unigol sy’n rhan o’r Dystysgrif Her Sgiliau presennol, mae'r cymwysterau newydd hyn yn cynrychioli datblygiad naturiol. Rydym wedi cydweithio'n agos ag athrawon a rhanddeiliaid ehangach i sicrhau cyfnod pontio llyfn i ganolfannau, gyda chefnogaeth y timau profiadol yn CBAC a fydd yn parhau i gynnig arweiniad arbenigol. Bydd y gefnogaeth hon yn cael ei chryfhau trwy becyn cynhwysfawr o adnoddau ddysgu proffesiynol rhad ac am ddim wedi'i deilwra ac adnoddau digidol o ansawdd uchel."
Newid naturiol
Mae'r cymwysterau Project Personol wedi'u cynllunio fel newid naturiol i gymryd lle cydran Project Unigol y Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen presennol. Bydd ein timau’n gweithio'n agos â chanolfannau i gefnogi'r broses o drosglwyddo ac integreiddio'r cymwysterau hyn yn eu cynlluniau cwricwlwm.
Rydym hefyd yn datblygu’r gyfres Sgiliau Bywyd a Gwaith i ategu’r Project Personol. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei chyhoeddi maes o law.
Asesiadau wedi'u llunio gyda dysgwyr mewn golwg
Yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru, mae'r cymwysterau Project Personol yn grymuso dysgwyr i ymgymryd ag astudiaeth ystyrlon, hunangyfeiriedig. Maen nhw'n gynhwysol trwy ddyluniad, gan gwmpasu Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 2, ac yn galluogi dysgwyr o bob gallu i archwilio’r testunau sy’n bwysig iddynt.
Mae ein cymwysterau cenedlaethol Gwneud-i-Gymru newydd yn ffurfio rhan o Drydedd Don diwygio cymwysterau yng Nghymru. Yn eu plith, mae'r cymwysterau TAAU, Project Personol a Sgiliau Bywyd a Gwaith. I ddysgu mwy, ewch i: www.cbac.co.uk/Ton3
Cymwysterau wedi'u cymeradwyo
Yn ogystal â chymwysterau Lefel 1 a Lefel 2 y Project Personol, mae'r manylebau canlynol hefyd wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen:
Lefel 1 / 2 TAAU
- Amgylchedd Adeiledig
- Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Teithio a Thwristiaeth
Lefel Mynediad / Lefel 1 Sylfaen
- Cymraeg Craidd
- Cymraeg
- Dylunio a Thechnoleg
Noder y byddwn yn cyhoeddi fersiynau drafft o'r manylebau cyn bo hir. Fodd bynnag, oherwydd gofynion y rheoleiddwyr, ni ellir cyhoeddi'r fersiynau cymeradwy terfynol tan 1 Medi. Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Cefnogaeth ac arweiniad
Byddwn yn cyhoeddi pecyn cynhwysfawr RHAD AC AM DDIM yn fuan i gynorthwyo â'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn. Bydd hyn yn cynnwys:
- Adnoddau digidol o safon
- Cyfleoedd dysgu proffesiynol
Ym mis Mawrth, byddwn yn cyhoeddi cyfres o 'Ganllawiau Cyflym' unigol sy'n amlinellu cynnwys, testunau a'r dulliau asesu ar gyfer pob pwnc.
Mae ein Cynrychiolydd Cefnogaeth Ranbarthol, Sophie Dobbs, ar gael yn ogystal i gefnogi wyneb yn wyneb ac ar-lein. Anfonwch e-bost at ton3@cbac.co.uk i drafod ein cymwysterau neu i drefnu cyfarfod: wave3@wjec.co.uk
Gwybodaeth bellach
I gael gwybod mwy am ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 ewch i'r ardal bwrpasol ar ein gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at ton3@cbac.co.uk
