
Cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 2 – amserlen Dysgu Proffesiynol yn fyw nawr!
Yn dilyn llwyddiant ein sioe deithiol gyntaf o ddigwyddiadau Dysgu Proffesiynol ledled Cymru ar gyfer cymwysterau Ton 1, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein rhaglen Dysgu Proffesiynol ar gyfer cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 2 nawr yn fyw. Fe wnaeth ein sioe deithiol gyntaf gyrraedd 6,500 o weithwyr addysg proffesiynol ar draws 170 o ddigwyddiadau, gyda 75% o'r mynychwyr yn adrodd dealltwriaeth 'dda' neu 'hynod dda' o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 1.
Gan adeiladu ar lwyddiant ein digwyddiadau Dysgu Proffesiynol blaenorol, rydym yn paratoi i gyflwyno cyrsiau ledled y wlad gan ein harbenigwyr manylebau hyfforddedig ar gyfer cymwysterau Ton 2, a fydd yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.
Dywedodd Nia Jones, Rheolwr Dysgu Proffesiynol: “Rydym yn falch o gynnig pecyn pwrpasol a chynhwysfawr o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb eto yn y flwyddyn academaidd nesaf. Y tro hwn, bydd yn galluogi athrawon Cymwysterau Ton 2 i gyflwyno ein cymwysterau yn hyderus.”
I weld yr amserlen ac i gadw eich lle ar gyfer y digwyddiadau briffio'r fanyleb ar-lein newydd (bydd modd dechrau cofrestru yn nhymor yr haf 2025), ewch i dudalen y cymhwyster newydd a chliciwch ar y tab 'hyfforddiant'.
Cwrs ar-lein ac wyneb yn wyneb
Mae ein cyrsiau'n cynnwys cymysgedd o hyfforddiant anghydamseredig ar-lein, byw ac wyneb yn wyneb, a byddant yn cael eu cynnal yn ystod y 18 mis nesaf:
Hydref 2025 | Deunydd anghydamseredig yn cyflwyno pob manyleb sydd newydd ei chyhoeddi a gwybodaeth allweddol i rieni/gofalwyr a dysgwyr, gyda digwyddiadau holi ac ateb ar-lein byw i ddilyn. |
Gwanwyn 2026 | Sioeau Teithiol ledled Cymru: Digwyddiadau "Paratoi i Addysgu" wyneb yn wyneb. |
Haf 2026 | Cyfres o ddeunyddiau Arweiniad i'r Arholiad ac Arweiniad i'r Asesiad Di-arholiad i gefnogi'r gwaith o baratoi ar gyfer asesiadau. |
Sioeau Teithiol ledled Cymru
Rydym yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Consortia Rhanbarthol a CYDAG (cyfrwng Cymraeg) i hwyluso mynediad athrawon at ein cyfres o ddigwyddiadau "Paratoi i Addysgu" wyneb yn wyneb. Mae penaethiaid ar draws Cymru, mewn partneriaeth â'u Hawdurdod Lleol, wedi cytuno i gau ysgolion ar gyfer HMS ar ddyddiau penodol, fel y gall cymaint o athrawon pwnc â phosibl fynychu'r digwyddiadau hyn. Bydd y cynllun ledled Cymru hwn yn gweld ysgolion mewn clystyrau o Awdurdodau Lleol ac ysgolion sy'n gysylltiedig â CYDAG yn cau er mwyn i CBAC ddarparu HMS ar ddiwrnod dynodedig rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2026. Gan gydweithio, byddwn yn darparu hyd at 10 o ddigwyddiadau Dysgu Proffesiynol mewn ysgolion ar bob diwrnod HMS ar draws Cymru.
Gellir gweld dyddiadau eich HMS clwstwr yma: TGAU Gwneud-i-Gymru – Dysgu Proffesiynol. Bydd manylion ynghylch sut gallwch chi/eich ysgol gofrestru yn dilyn yn nhymor yr haf.
Dysgu Proffesiynol Parhaus ar gyfer Cymwysterau Ton 1
Yn y cyfamser, ar gyfer athrawon cymwysterau Ton 1, gellir dod o hyd i holl ddeunyddiau Dysgu Proffesiynol eleni ar ein gwefan Porth. Hefyd, gellir dod o hyd i recordiadau o'r sesiynau Briffio'r Fanyleb Newydd, ynghyd â modiwlau arweiniad i'r fanyleb, dan y tab 'Hyfforddiant', 'Cyrsiau Ar Alw' ar dudalen y cymhwyster newydd. Yn ogystal, mae disgwyl i ddigwyddiadau Paratoi i Asesu ar-lein byw gael eu cynnal drwy gydol yr hydref, y gwanwyn ac i mewn i flwyddyn academaidd 2026/27 i gefnogi'r gwaith o farcio'r holl unedau a asesir yn fewnol.
Y newyddion diweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Yn arbennig i Gymru. Yn barod i'r byd.' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd hyn.