Cymwysterau Cymru'n cyhoeddi Adroddiad ar Benderfyniad y Cynnig Cymwysterau 14-16 Llawn

Cymwysterau Cymru'n cyhoeddi Adroddiad ar Benderfyniad y Cynnig Cymwysterau 14-16 Llawn

Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad ar Benderfyniad y Cynnig Cymwysterau 14-16 Llawn yn rhan o'u gwaith diwygio Cymwys ar gyfer y Dyfodol.

Gan gyfeirio at y cyhoeddiad, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Mae heddiw yn garreg filltir arall o ran sicrhau bod gan ddysgwyr yng Nghymru fynediad at amrywiaeth eang o gymwysterau sy'n bodloni eu hanghenion ac sy'n cyfateb yn llwyr i’r 'Cwricwlwm i Gymru'.

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu cyfres o gymwysterau newydd TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig. Gan ddefnyddio ein 75 mlynedd o brofiad, rydym yn defnyddio dull o gyd-awduro ar gyfer datblygiad y cymwysterau cyffrous hyn. Er gwaethaf yr amserlen heriol, rydym wrthi'n ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid drwy gydol y broses i greu cyfres o gymwysterau dwyieithog a fydd yn rhoi i ddysgwyr y sgiliau, gwybodaeth a'r ddealltwriaeth a fydd yn eu galluogi nhw i ffynnu ym mha bynnag lwybr maen nhw'n dewis ei ddilyn,

Mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi bod wrth wraidd y broses; ac rydym wedi datblygu egwyddorion a chanllawiau ar agweddau allweddol megis themâu trawsbynciol, profiadau dysgu a sgiliau cyfannol i adlewyrchu uchelgeisiau'r cwricwlwm.

Mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau ymroddedig wedi bod yn arwain y datblygiad ac maen nhw'n parhau i gynnal deialog adeiladol ag amrywiaeth eang o arbenigwyr o bob rhan o'r wlad, gan gynnwys DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol) i sicrhau bod y cymwysterau newydd yn parhau i roi profiadau amrywiol, dilys a pherthnasol i ddysgwyr.

Er ein bod yn siomedig o weld diwedd y Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen a Bagloriaeth Cymru, teimlwn ei bod yn bwysig dathlu eu llwyddiant. Ers lansio yn 2015, mae dros 370,000 o ddysgwyr ar draws Cymru wedi cyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen. Mae'r dysgwyr hyn wedi datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys effeithiolrwydd personol, cynllunio a threfnu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau. Maen nhw'n sgiliau sy'n rhan annatod o'r 'Cwricwlwm i Gymru' newydd ac mae cyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt yn chwilio amdanyn nhw.

At hynny, rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni i greu asesiadau arloesol a blaengar gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, Amnesty International a'r Project GOT (Getting on Together), project sy'n anelu at hyrwyddo gwerth amrywiaeth ac integreiddio. Mae'r partneriaethau amrywiol rydym wedi'u datblygu ers 2015 yn adlewyrchu hyblygrwydd y cymhwyster wrth ddatblygu sgiliau dysgwyr gan hefyd fynd i'r afael â themâu amserol a pherthnasol sy'n gysylltiedig â'r themâu trawsbynciol o fewn y 'Cwricwlwm i Gymru' newydd.

Gan edrych i'r dyfodol, byddwn yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid allweddol yn ein cymunedau addysg i ddiwygio ac i ddatblygu ein cyfres o gymwysterau yn unol â'r cynnig 14-16 llawn. Gan ddefnyddio ein profiad a'n gwybodaeth helaeth wrth ddatblygu a chyflwyno cymwysterau ac asesiadau dilys a dibynadwy, byddwn yn datblygu ein cymwysterau i fodloni anghenion a diddordebau pob dysgwr ac fel eu bod yn cyfateb i’r Cwricwlwm i Gymru'.

Mae ein hymrwymiad i gynnig pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth i gyflwyno ein holl gymwysterau dwyieithog yn parhau, gan gynnwys cyswllt uniongyrchol at arbenigwyr pwnc, cyfleoedd dysgu proffesiynol ledled y wlad ac adnoddau digidol rhad ac am ddim.

Ein gweledigaeth o hyd yw gwella ein portffolio o gymwysterau ar draws pob lefel, ac edrychwn ymlaen at gynnig dewisiadau ychwanegol i ddysgwyr ar draws Cymru i gefnogi ystod ehangach o brofiadau dysgu."

Y wybodaeth ddiweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.