Cymwysterau Cymru a CBAC i gynnig rhaglen o weminarau ar gyfer athrawon TGAU Amgylchedd Adeiledig

Cymwysterau Cymru a CBAC i gynnig rhaglen o weminarau ar gyfer athrawon TGAU Amgylchedd Adeiledig

Mae Cymwysterau Cymru yn falch o fod wedi cymeradwyo cymhwyster newydd TGAU Amgylchedd Adeiledig CBAC a fydd ar gael i'w gyflwyno o fis Medi 2021.

Dyluniwyd y cymhwyster er mwyn cyflwyno dysgwyr i'r amgylchedd adeiledig, a datblygu eu dealltwriaeth ohono, gan gynnwys y crefftau a'r rolau sydd ynddo, yr offer, y technolegau a'r deunyddiau a ddefnyddir wrth ei adeiladu a'i gynnal a’i gadw, a'r prosesau sy'n gysylltiedig â'i ddylunio.

Er mwyn cefnogi canolfannau i baratoi ar gyfer darparu'r cymhwyster hwn, cyn bo hir bydd Cymwysterau Cymru yn rhannu manylion rhaglen o weminarau er mwyn i ymarferwyr gynnig safbwyntiau'r diwydiant ar gynnwys y cymhwyster TGAU newydd a gefnogir gan CBAC. Bydd y gweminarau hyn yn cychwyn fis Ionawr 2021 a byddant yn cael eu cynnal yn fisol hyd at haf 2021. Byddwn yn rhannu mwy o fanylion, trwy ein gwefan ac yn uniongyrchol â chanolfannau ddechrau mis Rhagfyr.