Cymeradwyo'r gyfres lawn o gymwysterau Ton 3 – CBAC yw'r corff dyfarnu cyntaf i gyrraedd y garreg filltir hon

Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi mai CBAC yw’r corff dyfarnu cyntaf i gael cymeradwyo ei gyfres lawn o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 gan Cymwysterau Cymru. Bydd y cymwysterau hyn ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027. 

Mae hon yn garreg filltir nodedig sy'n nodi cwblhau trydedd ton ein gwaith datblygu cymwysterau, gan atgyfnerthu'r ymrwymiad sydd gennym i gyflwyno cymwysterau o safon, y mae'r dysgwr yn ganolog iddynt sy'n bodloni gofynion ysgolion, colegau, dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru. 

Mewn sylw ar y gamp hon, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: 

"Rydym yn falch iawn o fod y corff dyfarnu cyntaf i gael cymeradwyo ein cyfres lawn o gymwysterau Ton 3 gan Cymwysterau Cymru. Mae'r garreg filltir hon yn arwydd o gryfder ein proses datblygu cymwysterau a'n hymrwymiad diflino i gyflwyno cymwysterau o safon i ddysgwyr ledled Cymru. 

Gweithiwyd mewn partneriaeth agos ag addysgwyr, cyflogwyr ac arbenigwyr o'r diwydiant drwy gydol y broses ddatblygu gyda'r nod o sicrhau bod ein cymwysterau'n adlewyrchu arfer presennol ac yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i'r dysgwyr fel y gallant symud ymlaen i ddysgu, cyflogaeth ac hyfforddiant pellach. 

Lluniwyd ein cymwysterau newydd i fodloni anghenion amrywiol dysgwyr. Bydd ein cymwysterau TAAU yn cyfateb i'n TGAU newydd, gan gynnig cyfleoedd i archwilio llwybrau galwedigaethol a datblygu sgiliau sy'n berthnasol i ddiwydiant. Drwy ein Cymwysterau Sylfaen cefnogir dysgwyr i feithrin hyder a sefydlu sylfeini cryf ar gyfer llwyddo yn y dyfodol. Gyda'r cymwysterau Project Personol, anogir dysgwyr i ddatblygu a dangos y sgiliau a fydd yn eu cefnogi ar eu taith tua'r dyfodol. Mae'r cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith yn cynnig cyfleoedd hyblyg ac ystyrlon sy'n cydnabod cryfderau'r unigolion ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r ysgol. 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y cyflawniad hwn. Bu ein rhanddeiliaid yn allweddol o ran datblygu cymwysterau a fydd yn ysbrydoli dysgwyr ac yn ategu eu llwyddiant am flynyddoedd i ddod. Maent wedi parhau i'n cefnogi, i roi eu mewnwelediad ac i gynnig eu harbenigedd."

Cefnogi cam nesaf diwygio cymwysterau 

Mae ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru yn ffurfio rhan o Don 3 y rhaglen Cymwysterau Cenedlaethol 14–16 ac yn cynnwys:
 

  • Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) 

  • Cymwysterau Sylfaen 

  • Cymwysterau Project Personol 

  • Cymwysterau Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith 

Gyda'i gilydd, bydd y cymwysterau hyn yn tywys dysgwyr i lawr llwybrau ehangach, yn cynnig mwy o ddewis a chyfleoedd o safon fel y gallant ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. 

Manylebau wedi'u cymeradwyo 

Yn unol â gofynion y rheoleiddwyr, byddwn yn parhau i gyhoeddi'r manylebau drafft sy'n weddill yn ystod mis Awst. Bydd y manylebau wedi'u cymeradwyo ar gael o 1 Medi. Bydd gan y canolfannau gyfnod llawn o 12 mis wedyn i baratoi cyn dechrau addysgu am y tro cyntaf.
 

Rydym yn eich annog i danysgrifio i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf. 

Cefnogaeth gynhwysfawr i ganolfannau 

Rydym wedi datblygu pecyn cyflawn o gefnogaeth ddwyieithog i gefnogi cyflwyno'r cymwysterau hyn yn llwyddiannus. Yn eu plith mae:
 

  • Adnoddau Digidol Rhad ac Am Ddim – cyfres o adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog y mae modd eu golygu, gan gynnwys deunyddiau dysgu cyfunol a threfnyddion sgiliau a gwybodaeth. 

  • Dysgu Proffesiynol – rhaglen o hyfforddiant dwyieithog ar alw, ynghyd â sesiynau hwyrnos pwnc-benodol rheolaidd a chyfarfodydd Fforymau Pynciau. 

  • Cefnogaeth Ranbarthol benodol – Mae ein Cynrychiolydd Cefnogaeth Ranbarthol, Sophie Dobbs, ar gael i gefnogi ysgolion a cholegau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Anfonwch e-bost at ton3@cbac.co.uk i drafod ein cymwysterau newydd neu i drefnu cyfarfod. 

Darganfod mwy 

Edrychwch ar ein 
tudalennau gwe Ton 3 penodol i ddysgu mwy am ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at ton3@cbac.co.uk .