Cymeradwyo cymwysterau CBAC Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith, gan gryfhau cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14–16 newydd Cymru

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru fel rhan o gynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14–16 newydd Cymru.  

Mae'r garreg filltir hon yn cadarnhau ein safle fel y prif gorff dyfarnu sy'n darparu cymwysterau o ansawdd uchel, wedi'u cynllunio i fodloni anghenion dysgwyr, addysgwyr a chyflogwyr ledled y wlad.  

Wrth sôn am y cyflawniad hwn, dywedodd Sara Davies, Pennaeth Sgiliau a Llwybrau:

"Rydym yn hynod falch o weld ein cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith yn cael eu cymeradwyo'n ffurfiol fel rhan o gynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14–16 newydd Cymru. Mae'r cymwysterau hyn wedi'u cynllunio i gydnabod cryfder pob dysgwr, gan gynnig llwybrau hyblyg, ystyrlon sy'n meithrin hyder, annibyniaeth a'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r ysgol.  

Trwy weithio'n agos gydag athrawon, canolfannau a phartneriaid sector, rydym wedi sicrhau bod ein Cyfres Sgiliau yn adlewyrchu cyd-destunau'r byd go iawn ac yn cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd gwirioneddol ar gyflymder sy'n addas iddynt. Mae'r gymeradwyaeth hon yn garreg filltir gyffrous, nid yn unig i CBAC, ond i bob person ifanc yng Nghymru sy'n haeddu cyfleoedd dysgu hygyrch, perthnasol a grymusol.” 

Grymuso dysgwyr trwy gyfres sgiliau hyblyg, gynhwysol 

Mae'r cymwysterau sydd newydd eu cymeradwyo yn rhan o'n Cyfres Sgiliau, sydd ar gael o Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 2, gan sicrhau bod dysgwyr – waeth beth fo'u man cychwyn – yn gallu symud ymlaen yn hyderus trwy raglen sy'n cydnabod cyflawniad ym mhob cam.  

Wedi'i gynllunio o amgylch strwythur hyblyg, unedig, mae'r Gyfres Sgiliau yn cefnogi datblygiad cyson ac yn lleihau'r pwysau sy'n gysylltiedig ag asesiadau hynod bwysig. Mae pob uned yn cael ei chyflwyno mewn fformat annibynnol, sy'n galluogi dysgwyr i greu llwybr sy'n adlewyrchu eu diddordebau, eu cryfderau a'u nodau dilyniant.  

Trwy sicrhau fod cyd-destunau go iawn wrth wraidd dysgu ac alinio cyfleoedd â'r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad o fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae'r Gyfres Sgiliau yn darparu addysg ystyrlon, ymarferol sy'n cryfhau hyder, annibyniaeth a pharodrwydd i'r dyfodol. 

Amrywiaeth eang, berthnasol a diddorol o opsiynau unedau 

Er mwyn dangos ehangder a pherthnasedd y cymwysterau hyn, mae'r Gyfres Sgiliau yn cynnwys amrywiaeth eang o unedau Sgiliau Bywyd, megis:

  • Cyfraith bob dydd 
  • Cyfranogiad cymunedol 
  • Cymorth cyntaf sylfaenol 
  • Cynaliadwyedd ar waith 
  • Democratiaeth ar waith 
  • Gwaith tîm 
  • Iechyd a llesiant meddyliol 
  • Llythrennedd ariannol 
  • Perthnasoedd iach 

Mae Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith hefyd yn cynnig unedau ieithoedd rhyngwladol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyfathrebu sy'n berthnasol i gyd-destunau byd-eang.  

Mae'r unedau hyn yn sicrhau y gall dysgwyr archwilio diddordebau amrywiol ac adeiladu'r wybodaeth a'r galluoedd a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser yn yr ysgol, addysg bellach, cyflogaeth a bywyd oedolyn. 

Rhan o gynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14–16 diwygiedig Cymru 

O fis Medi 2027 ymlaen, bydd y Gyfres Sgiliau – gan gynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, a'r Project Personol – ar gael i bob person ifanc 14-16 oed yng Nghymru fel elfen graidd o'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd.  

Bydd dysgwyr yn gallu dilyn unedau Cyfres Sgiliau ochr yn ochr â TGAU, TAAU a Chymwysterau Sylfaen, gan alluogi ysgolion a cholegau i deilwra rhaglenni sy'n cefnogi llwybrau unigol orau ac sy'n cyd-fynd â phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.  

Partner dibynadwy ar gyfer cymwysterau i Gymru 

Rydym yn dod â mwy na 75 mlynedd o brofiad o ddatblygu cymwysterau dwyieithog o ansawdd uchel i ddysgwyr ledled y genedl. Fel yr unig gorff dyfarnu sy'n cynnig cymwysterau ar draws pob cyfres o'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14–16 newydd, rydym yn parhau i chwarae rôl flaenllaw wrth lunio tirwedd cymwysterau cynhwysol, fodern ac uchelgeisiol i Gymru.  

Cael y wybodaeth ddiweddaraf  

Noder y byddwn yn cyhoeddi fersiynau drafft o'r manylebau cyn bo hir. Fodd bynnag, oherwydd gofynion y rheoleiddwyr, ni ellir cyhoeddi'r fersiynau cymeradwy terfynol tan 1 Medi. Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf. 

Mae ein Cynrychiolydd Cefnogaeth Ranbarthol, Sophie Dobbs, ar gael yn ogystal i gefnogi wyneb yn wyneb ac ar-lein. Anfonwch e-bost at ton3@cbac.co.uk i drafod ein cymwysterau neu i drefnu cyfarfod. 

Gwybodaeth bellach 

I gael gwybod mwy am ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 ewch i'r ardal bwrpasol ar ein gwefan.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at ton3@cbac.co.uk