Cyhoeddi'r pedwerydd rownd o fyfyrwyr i ennill Bwrsari Gareth Pierce

Mae tri myfyriwr uchel eu cyflawniad o Gymru wedi'u dewis i dderbyn bwrsarïau drwy Gynllun Bwrsari Gareth Pierce i gefnogi eu hastudiaethau mewn Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Tarian Jones a Gruffudd Howell o Brifysgol Caerdydd, a Bailey Powell-McCloy o Brifysgol Aberystwyth yw'r myfyrwyr diweddaraf i ennill y bwrsari o £3,000 yr un er cof am ein cyn Brif Weithredwr, Gareth Pierce. 

Yn ei sylwadau am gyflawniad y myfyrwyr, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Mae Bwrsari Gareth Pierce yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ac mae hyn yn dystiolaeth o frwdfrydedd parhaus Gareth dros fathemateg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ar ran CBAC, rwy'n falch iawn o longyfarch Bailey, Gruffudd a Tarian ar dderbyn y bwrsari nodedig hwn. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn eu hastudiaethau a gobeithio y bydd y bwrsari yn eu cefnogi i ffynnu a chyrraedd eu potensial yn llawn yn eu cyrsiau perthnasol." 

Lansiwyd Cynllun Bwrsari Gareth Pierce yn 2022 a'i nod yw annog a chefnogi myfyrwyr israddedig sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cynllun yn cefnogi tri myfyriwr bob blwyddyn ac yn cael ei weinyddu gyda chefnogaeth werthfawr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: 

"Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Bailey, Gruffudd a Tarian ar ennill Bwrsari Gareth Pierce eleni.  

Roedd Gareth Pierce yn ffrind, yn gydweithiwr ac yn ffigwr dylanwadol a wnaeth gyfraniad allweddol i'r Coleg a'r byd addysg ehangach yng Nghymru. Felly, mae'n fraint cael cefnogi'r bwrsari hwn ar y cyd â CBAC. 

Gobeithiwn y bydd y bwrsari'n cefnogi'r myfyrwyr i ffynnu yn eu cyrsiau, a hoffem ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol." 

Yr Enillwyr



Mae Bailey Powell-McCloy o Flaenafon, Torfaen, yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw. Fel unigolyn sy'n dod o deulu nad ydynt yn medru'r Gymraeg ac sydd wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol, mae'r cyfle i barhau â'i addysg Gymraeg yn y brifysgol yn bwysig iawn iddo. Dywedodd: 

"Dydy mam ddim yn siarad Cymraeg, ond roedd hi am i mi a fy mrawd fynd i ysgol gyfrwng Gymraeg i gael cyfleoedd newydd. 

Rwy'n falch fy mod i wedi gallu dal ati i ddefnyddio fy Nghymraeg yn y brifysgol drwy fy astudiaethau, ac yn gymdeithasol hefyd.  

Mae Cymraeg a Mathemateg yn agor cymaint o ddrysau, a bydd yr iaith yn bendant yn fantais pan fyddaf yn gwneud ceisiadau am swyddi yn y dyfodol." 



Mae Tarian Jones o Rydaman wrth ei bodd yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'r iaith wedi chwarae rhan bwysig yn ei datblygiad personol ar y cwrs. Dywedodd hi:

"Drwy gyfathrebu yn fy mamiaith gyda fy nhiwtoriaid, rwyf wedi meithrin perthynas agos â nhw sydd wedi bod yn fuddiol iawn wrth i mi arfer â'r gwaith. 

Mae yna gymuned fywiog o fyfyrwyr yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r gymuned honno." 





Mae Gruffudd Howell, cyn-ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin, yn gobeithio bod yn athro Mathemateg yn y dyfodol. Dywedodd:

"Datblygodd fy niddordeb mewn Mathemateg yn yr ysgol. Rwy'n hoffi'r sicrwydd sy'n gysylltiedig â mathemateg, a'r ffordd mae pethau'n ffitio gyda'i gilydd yn rhesymegol. 

Hoffwn rannu fy mrwdfrydedd dros fathemateg a fy mamiaith drwy fod yn athro Mathemateg mewn ysgol gyfrwng Gymraeg.  

Rwy'n ddiolchgar iawn am y bwrsari, a byddaf yn defnyddio'r arian i gymryd rhan yng ngweithgareddau Cymdeithas Iaith Gymraeg y Brifysgol, ac i fuddsoddi mewn adnoddau cyfrwng Cymraeg a fydd yn cefnogi fy astudiaethau." 

Gwneud cais  


Yn rhan o'r cynllun, rhoddir 3 bwrsari o £3,000 y flwyddyn i bob myfyriwr sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n gymwys hefyd i gael benthyciad myfyriwr yn seiliedig ar brawf modd. Gan mai grant yw'r arian a dderbynnir, nid yw'n ad-daladwy, gan leihau'r baich ariannol ar fyfyrwyr. Mae'r cynllun yn cael ei gynnal bob blwyddyn, a gellir gwneud ceisiadau o dymor y Gwanwyn ymlaen. 

Mae rhagor o fanylion i'w cael ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:  
Jonathan Thomas  
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand  
jonathan.thomas@cbac.co.uk 
029 2026 5102