Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Arloesedd 2022
Rydym yn falch o gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer rownd terfynol ein Gwobrau Arloesedd blynyddol.
Mae'r Gwobrau Arloesedd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn annog pobl ifanc yng Nghymru i fod yn dechnolegol arloesol ac yn dathlu pwysigrwydd Dylunio a Thechnoleg
Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod gwaith mwyaf gwreiddiol y prosiect gan fyfyrwyr gyda 1af, 2il,a 3ydd lle ar gyfer gwaith TGAU, Safon UG a Safon Uwch, ochr yn ochr â gwobrau am Greadigrwydd, CAD/CAM (dylunio a gweithgynhyrchu trwy gymorth cyfrifiadurol), ac Eiddo Deallusol.
Mae'r rhestr fer lawn i'w gweld ar-lein.
Wrth sôn am y rhestr fer, dywedodd Jason Cates, Swyddog Pwnc Dylunio a Thechnoleg CBAC:
"Mae'r gwobrau yn ffordd wych o gydnabod a dathlu llwyddiant myfyrwyr ledled Cymru. Mae'n anhygoel gweld pobl ifanc yn herio dyluniad cynnyrch bob dydd a darganfod atebion i'r problemau sy'n ein hwynebu bob dydd. Cawsom ein syfrdanu gan safon y ceisiadau yn ygystadleuaeth eleni - gwaith rhagorol! Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddathlu'r gwaith hwn gyda'r myfyrwyr a'r athrawon yn ein seremoni Wobrwyo wyneb yn wyneb ym mis Rhagfyr.”
Seremoni Wobrwyo
Bydd myfyrwyr, athrawon a rhieni o ysgolion a cholegau ledled y wlad yn cael eu gwahodd i'n Seremoni Wobrwyo Arloesi ffurfiol ym mis Rhagfyr, lle bydd enillwyr y categori yn cael eu datgelu, a'r enillydd cyffredinol yn cael ei goroni. Peidiwch ag anghofio rhoi nodyn atgoffa yn eich dyddiadur!
I weld delweddau o'r blynyddoedd blaenorol, ewch i'n tudalen Facebook