Cyfres lawn o fanylebau cymeradwy Gwneud-i-Gymru Ton 3 ar gael yn awr
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y gyfres lawn o fanylebau cymeradwy ar gyfer ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 bellach ar gael i'w lawrlwytho.
Wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, bydd y cymwysterau hyn ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027, gan roi blwyddyn lawn i ysgolion a cholegau gynllunio a pharatoi i'w cyflwyno.
Mae'r gyfres Ton 3 yn cynnwys:
- Project Personol a Chyfres Sgiliau
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Ein Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
- TAAU
Gyda'i gilydd, mae'r cymwysterau hyn yn cynrychioli carreg filltir nodedig arall yn rhaglen diwygio cymwysterau genedlaethol Cymru, gan atgyfnerthu ymrwymiad CBAC i gyflwyno cymwysterau o safon, y mae'r dysgwr yn ganolog iddynt sy'n bodloni anghenion ysgolion, colegau, dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru.
![]() |
Mewn sylw ar y cyhoeddiad hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Mae cyhoeddi ein cyfres lawn o fanylebau Gwneud-i-Gymru Ton 3 cymeradwy yn garreg filltir arwyddocaol i CBAC ac i addysg yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu'r ymroddiad, yr arbenigedd a'r cydweithrediad sydd wedi mynd i ddatblygu cymwysterau a fydd yn cefnogi dysgwyr am flynyddoedd lawer i ddod. |
Trwy gydol y broses ddatblygu, rydym wedi gweithio'n agos gydag addysgwyr, cyflogwyr ac arbenigwyr y diwydiant i sicrhau bod pob cymhwyster yn berthnasol, yn drylwyr ac yn cyd-fynd ag anghenion dysgwyr heddiw a gweithlu yfory.
Gyda'i gilydd, mae ein cymwysterau newydd Ton 3 yn darparu cynnig eang a chynhwysol i ddysgwyr ledled Cymru. Ynghyd â'n cymwysterau TGAU newydd, mae ein Cymwysterau TAAU yn agor llwybrau galwedigaethol cyffrous, tra bod ein Cymwysterau Sylfaen yn helpu dysgwyr i fagu hyder a sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae ein Cymwysterau Project Personol yn annog dysgwyr i ddatblygu ac arddangos sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, ac mae ein Cymwysterau Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith yn darparu llwybrau hyblyg ac ystyrlon sy'n cydnabod cryfderau unigol ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r ysgol.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y cyflawniad hwn. Mae mewnwelediad, ymrwymiad a chydweithrediad parhaus ein rhanddeiliaid wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i ddatblygu cymwysterau a fydd yn ysbrydoli dysgwyr, yn cefnogi athrawon ac yn bodloni anghenion addysg a diwydiant ledled Cymru sy'n newid."
Cefnogaeth gynhwysfawr i ganolfannau
Er mwyn helpu ysgolion a cholegau i baratoi ar gyfer addysgu am y tro cyntaf, rydym wedi datblygu pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth ddwyieithog, gan gynnwys:
- Adnoddau Digidol Rhad ac Am Ddim – cyfres o adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog y mae modd eu golygu, gan gynnwys deunyddiau dysgu cyfunol, taflenni gwaith, canllawiau i athrawon a threfnyddion sgiliau a gwybodaeth.
- Dysgu Proffesiynol – rhaglen o hyfforddiant dwyieithog ar alw, wedi'i hategu gan sesiynau hwyrnos pwnc-benodol rheolaidd a chyfarfodydd Fforymau Pynciau.
- Cefnogaeth Ranbarthol Benodol: Mae ein Cynrychiolydd Rhanbarthol, Sophie Dobbs, ar gael i gefnogi ysgolion a cholegau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Anfonwch e-bost at ton3@cbac.co.uk i drafod ein cymwysterau newydd neu i drefnu cyfarfod.
- Mae ein Tîm Cefnogaeth Ranbarthol Cymru hefyd wrth law i ateb eich ymholiadau ar gymwysterau Project Personol a'r Gyfres Sgiliau yn SkillsSupportCymru@wjec.co.uk.
Deunyddiau cymhwyster ychwanegol
Ynghyd â'r manylebau cymeradwy, byddwn yn parhau i gyhoeddi amrywiaeth o ddeunyddiau ategol i helpu canolfannau i baratoi ar gyfer cyflwyno.
Bydd ein Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) ar gael yn ystod tymor yr hydref, gan ddarparu arwydd o arddull a strwythur yr asesiadau. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan ein Canllawiau Addysgu, a fydd yn cael eu cyhoeddi ddechrau mis Ionawr a bydd yn darparu cefnogaeth ymarferol i helpu canolfannau i gynllunio a chyflwyno'r cymwysterau yn hyderus.
Darganfod mwy
Ewch i'n tudalennau gwe Ton 3 penodol i lawrlwytho'r manylebau cymeradwy ac archwilio'r amrywiaeth lawn o gefnogaeth sydd ar gael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at ton3@cbac.co.uk.
Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag ysgolion a cholegau wrth iddynt baratoi i gyflwyno'r cymwysterau newydd cyffrous hyn o fis Medi 2027 ymlaen.
