Cyflwyno testunau sensitif i'r ystafell ddosbarth – Cefnogi athrawon ledled Cymru

Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. 

Wrth sôn am y canllawiau, dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau: "Rydym yn cydnabod y gall y trafodaethau hyn weithiau fod yn heriol i'w llywio, a dyna pam rydym wedi datblygu'r canllawiau hyn i gefnogi ymarferwyr i greu amgylcheddau dysgu diogel, cynhwysol a pharchus. Trwy ddarparu ystyriaethau a chyngor ymarferol, rydym yn gobeithio rhoi mwy o hyder i athrawon wrth ymgysylltu dysgwyr â thestunau sensitif, ble bynnag y maent yn codi o fewn ein cymwysterau."

Gan fod ein cymwysterau wedi'u cynllunio i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, mae dysgwyr yn debygol o ddod ar draws testunau sensitif fel rhan o'u taith ddysgu. Gall ymgysylltu â'r testunau hyn helpu dysgwyr i ddeall y byd o'u cwmpas yn well a gwneud cynnydd tuag at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm. 

Mewn rhai cymwysterau, mae cynnwys sensitif yn rhan o'r cynnwys pwnc penodedig. Mewn cymwysterau eraill, gall testunau sensitif godi'n naturiol trwy drafod ac archwilio yn yr ystafell ddosbarth, hyd yn oed pan nad oes cyfeiriad penodol atynt yn y cymhwyster.

Nodweddion allweddol y canllawiau 

Nid yw'r canllawiau hyn yn bwnc-benodol, yn lle hynny, maent yn: 

  • amlinellu ystyriaethau allweddol i ymarferwyr wrth gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau mewn perthynas â thestunau sensitif mewn amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol 

Rydym yn annog pob athro i ddefnyddio'r canllawiau ar y cyd â Chanllawiau Addysgu penodol i gymwysterau, yn ogystal â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau cenedlaethol a pholisïau canolfannau.

Canllawiau ategol i gefnogi pob canolfan 

Mae'r canllawiau wedi'u hanelu at ymarferwyr sy'n cyflwyno cymwysterau ar draws Cymru, gan gynnwys ysgolion a gynhelir, colegau addysg bellach a darparwyr dysgu eraill. Rydym hefyd yn annog uwch arweinwyr, gan gynnwys penaethiaid adrannau ac uwch dimau arwain, i ymgyfarwyddo â'r canllawiau fel rhan o gynllunio cwricwlwm ehangach a chefnogaeth i ddysgwyr.

Lawrlwythwch y canllawiau heddiw 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ymarferwyr gyda'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddarparu profiadau dysgu ystyrlon a llywio testunau sensitif yn hyderus. Gallwch gael mynediad i'n canllawiau drwy'r cyswllt canlynol