Cyflwyno Asesiadau Di-Arholiad yn hyderus – Canllawiau newydd ar gael nawr
Mae Asesiadau Di-Arholiad yn chwarae rhan bwysig mewn llawer o'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth drwy amrywiaeth o ddulliau asesu, o bortffolios a gwaith ymarferol i brojectau sy'n seiliedig ar ymchwil.
Er mwyn cefnogi ymarferwyr a dysgwyr i gyflwyno a chwblhau'r asesiadau hyn yn hyderus, mae ein tîm Datblygu Cymwysterau wedi cynhyrchu canllawiau newydd sy'n ymdrin â'r gofynion a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag Asesiadau Di-Arholiad. Datblygwyd y canllaw hwn i gefnogi canolfannau oherwydd y defnydd cynyddol o AI cynhyrchiol mewn addysg. Mae'r derminoleg a ddefnyddir yn ymwneud yn uniongyrchol â'n cymwysterau Ton 2 a Thon 3. Ar hyn o bryd, nid yw'r derminoleg a ddefnyddir yn ein cymwysterau Ton 1 yn cyd-fynd â'r canllawiau hyn; fodd bynnag, mae'r egwyddorion yn y ddogfen hon yn berthnasol i'r cymwysterau hynny.
Mae'r canllawiau yn darparu cyngor clir ar yr hyn y gall dysgwyr ei wneud ac na allant ei wneud ar bob cam o'r broses asesu, ynghyd â gwybodaeth am y dystiolaeth a allai fod ei hangen i ddangos dilysrwydd eu gwaith.
![]() |
Wrth sôn am gyhoeddi'r canllawiau, dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymwysterau: “Wedi'i datblygu mewn ymateb i adborth gan ymarferwyr a thrwy gydweithio â rhanddeiliaid ledled Cymru, mae'r canllawiau hyn yn darparu cefnogaeth ymarferol a hygyrch i athrawon a dysgwyr. Mae'n ymdrin â meysydd pryder allweddol, gan gynnwys rheolaethau asesu, cydweithio, cyfeirio a defnyddio adnoddau, gan helpu canolfannau i gyflwyno a chwblhau Asesiadau Di-arholiad yn hyderus.” |
Wrth sôn am gyhoeddi'r canllawiau, dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymwysterau: “Wedi'i datblygu mewn ymateb i adborth gan ymarferwyr a thrwy gydweithio â rhanddeiliaid ledled Cymru, mae'r canllawiau hyn yn darparu cefnogaeth ymarferol a hygyrch i athrawon a dysgwyr. Mae'n ymdrin â meysydd pryder allweddol, gan gynnwys rheolaethau asesu, cydweithio, cyfeirio a defnyddio adnoddau, gan helpu canolfannau i gyflwyno a chwblhau Asesiadau Di-arholiad yn hyderus.”
Cefnogi pob cam o'r broses
Er mwyn gwneud y canllawiau yn hawdd i'w llywio, mae'r broses Asesiadau Di-arholiad wedi'i rhannu'n ddau gam gwahanol: y Cam Ymchwil a Cham yr Asesiad Di-arholiad.
Y Cam Ymchwil
Mae'r canllawiau yn amlinellu:
-
Y mathau o weithgareddau y gall dysgwyr eu gwneud
-
Y ffynonellau a'r adnoddau y gall dysgwyr eu defnyddio
-
Gweithgareddau y gellir eu cwblhau yn yr ystafell ddosbarth
-
Gweithgareddau y gellir eu gwneud yn annibynnol y tu allan i'r ystafell ddosbarth
Cam yr Asesiad Di-arholiad
Mae'r canllawiau yn amlinellu:
-
Y gwahanol lefelau o reolaeth asesu a allai fod yn berthnasol
-
Y gweithgareddau a ganiateir yn ystod pob cam o asesiad
-
Disgwyliadau ynghylch annibyniaeth dysgwyr
-
Gofynion ar gyfer dangos tystiolaeth o ddilysrwydd
Yn ogystal, mae'r canllawiau yn egluro sawl agwedd allweddol ar gyflwyno, gan gynnwys lle caniateir cydweithredu, lefel y gefnogaeth y gall athrawon ei ddarparu, a'r adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr. Bydd hyn yn helpu canolfannau i osgoi problemau camymddwyn posibl ac yn sicrhau bod asesiadau'n cael eu cyflwyno'n gyson ac yn deg.
Cyfeirio at adnoddau
Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o sut i gyfeirio at amrywiaeth eang o ffynonellau, o lyfrau a chyfnodolion i wefannau a dulliau AI cynhyrchiol.
Mae'r enghreifftiau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi dealltwriaeth ac i helpu dysgwyr i ddatblygu arfer academaidd da wrth gydnabod y ffynonellau y maent wedi'u defnyddio.
Lawrlwythwch y canllawiau heddiw
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyngor clir a chefnogaeth ymarferol i helpu canolfannau i gyflwyno Asesiadau Di-arholiad yn hyderus.
Mae'r canllawiau ar gael nawr a gellir eu gweld yma.
