Creu cymwysterau sy'n addas ar gyfer y dyfodol

Creu cymwysterau sy'n addas ar gyfer y dyfodol

Wrth i ni fynd ati i ddechrau datblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig, dyma Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Datblygu Cymwysterau, yn trafod ein dull o greu pecyn cyffrous o gymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru.

'Mae CBAC yn 75 oed eleni, sy'n teimlo'n amserol wrth i ni ddechrau ar ein gwaith o ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig i ddysgwyr yng Nghymru. Mae hwn yn gyfnod pwysig i ni lle bydd Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi'r adroddiad penderfyniadau a'r meini prawf cymeradwyo ar ddiwedd mis Mehefin. Mae'r cyhoeddiad hwn yn hynod bwysig i ni, gan y bydd yn llywio cyfeiriad ein gwaith ac yn ein galluogi i ddechrau ar y gwaith cyffrous o greu TGAU newydd.

Cymwysterau Cymru fydd yn pennu gofynion pob cymhwyster ac rydym yn disgwyl y bydd mwy o newidiadau i rai pynciau na rhai eraill. Fodd bynnag, bydd pob pwnc yn cael ei ddatblygu yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru, a byddwn yn defnyddio dull ystyriol i benderfynu sut y bydd y cymwysterau yn gallu, er enghraifft, cyfleu themâu trawsbynciol fel amrywiaeth a chynaliadwyedd. Rydym hefyd yn ystyried effaith y cymhwyster ar addysgu a dysgu.

Fy rôl i yw arwain ein tîm o Swyddogion Datblygu brwdfrydig sy'n rheoli'r gwaith o ddatblygu'r cymwysterau cyffrous hyn. Mae ein tîm o saith o arbenigwyr yn meddu ar brofiad eang o ddatblygu cymwysterau ac maen nhw'n rhannu ein gweledigaeth o greu cymwysterau deniadol a hygyrch sy'n ysbrydoli ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru.

Bûm yn cynrychioli CBAC yn ddiweddar yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Roedd yn gyfle gwych i gwrdd ag athrawon i drafod sut gallai'r TGAU gefnogi i roi'r cwricwlwm newydd ar waith. Mae trafodaethau fel hyn yn cyfleu ein dull 'cyd-awduro' o ddatblygu ein cymwysterau a byddwn yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd cydweithio â chyrff allanol yn cefnogi'r dull hwn hefyd, er enghraifft, rydym wedi cysylltu â Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL) i sicrhau bod ein cymwysterau yn adlewyrchu amrywiaeth yng Nghymru ac yn fyd-eang. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn mynd ati i ehangu'r partneriaethau hyn i gynnwys amrywiaeth o gyrff.

Ochr yn ochr â'r trafodaethau hyn, rydym hefyd yn recriwtio awduron, adolygwyr ac arbenigwyr cymwysterau i ymuno â'n grwpiau cynghori ar bynciau. Bydd y rhain yn cynnig sianel arall i herio ein ffordd o feddwl.

Drwy gydol y daith hon byddwn yn gwrando, yn myfyrio ac yn ymateb i adborth. Rydym yn benderfynol o greu cymwysterau a fydd yn cefnogi uchelgeisiau'r cwricwlwm newydd, ac sydd hefyd yn bodloni'r gofynion rheoleiddiol a bennwyd gan Cymwysterau Cymru.

Rydym yn dal i fod ar gam cynnar iawn yn y broses, ond byddwn yn gweithio yn gyflym, ac mae ein tîm yn llawn cymhelliant i ddarparu cyfres o gymwysterau a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad.'

I gael gwybod mwy am ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dyfodol, ewch i'n tudalen we 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol'.

19/06/2023