Chwilio am ysbrydoliaeth Ffilm a Chyfryngau? Dyma 5 rheswm i fynychu'r Gwobrau Delwedd Symudol
Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, a lansiwyd yn 2014 mewn cydweithrediad â'r British Film Institute (BFI), yn dathlu'r cynyrchiadau delwedd symudol gorau a grëwyd gan ddysgwyr sy’n astudio cymwysterau Ffilm a Chyfryngau CBAC ac Eduqas ar draws y DU. Mae'r digwyddiad wedi dod yn arddangosfa i dalent greadigol newydd ac yn fan cychwyn i ddysgwyr sy'n ceisio sefyll allan wrth wneud ceisiadau i brifysgolion ac ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau ffilm a chyfryngau yn y dyfodol.
Eleni, yn sgil lleoliad mwy o fewn BFI Southbank, rydym yn falch iawn o allu estyn gwahoddiadau y tu hwnt i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer a'u gwesteion. Bellach mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i ddysgwyr o ysgolion a cholegau ledled Cymru a Lloegr.
| Wrth sôn am y cyfle cyffrous hwn, dywedodd Hilary Jaques, Swyddog Pwnc Astudio'r Cyfryngau:
|
P'un a yw dysgwyr newydd ddechrau ar eu taith ym maes Astudiaethau Ffilm a Chyfryngau, yn datblygu syniadau ar gyfer eu hasesiad di-arholiad, neu'n ystyried gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol, mae hwn yn gyfle na ddylid ei golli i ddysgu gan rai o wneuthurwyr ffilmiau a chrewyr cyfryngau ifanc mwyaf talentog y DU a chael eich ysbrydoli ganddynt.
5 rheswm i fynychu
Cael eich ysbrydoli gan waith rhagorol dysgwr
Cewch weld arddangosfa anhygoel o gynyrchiadau asesiadau di-arholiad Ffilm a Chyfryngau ar lefel TGAU ac UG/Safon Uwch, sy'n dangos creadigrwydd, sgìl ac arloesedd dysgwyr o bob rhan o'r DU.
Clywed gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant
Cewch wrando ar drafodaeth ddifyr sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol yn y byd ffilm a chyfryngau sy'n gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn y diwydiant, gan gynnwys Daniel Brierley, a ysgrifennodd Trigger Point ac a greodd un o'r cynhyrchion gosod a astudiwyd yng nghymhwyster TGAU Astudio'r Cyfryngau Eduqas.
Ymweld â'r BFI Southbank eiconig
Cewch dreulio'r diwrnod yn un o leoliadau diwylliannol mwyaf arwyddocaol y DU, cartref un o'r casgliadau pwysicaf o hanes ffilm a theledu yn y byd.
Dathlu’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol
Cewch weld cyflawniadau dysgwyr CBAC ac Eduqas sy'n cynrychioli dyfodol diwydiant ffilm a theledu Prydain drosoch eich hun.
Mae'n rhad ac am ddim
Nid oes cost am fynychu, gan ei wneud yn gyfle gwerthfawr a hygyrch i ddysgwyr ac athrawon fel ei gilydd.
Cofrestrwch i gadw’ch lle Mae tua 175 o docynnau ar gael o hyd a byddant yn cael eu dyrannu ar sail 'cyntaf i'r felin'. I gofrestru, anfonwch e-bost at enquiries@movingimageawards.co.uk yn nodi faint o docynnau yr hoffech eu cadw. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i brofi dathliad ysbrydoledig o greadigrwydd, darganfod safbwyntiau newydd ar ffilm a chyfryngau, a chael mewnwelediadau amhrisiadwy o waith arobryn myfyrwyr a gan arbenigwyr y diwydiant. |
