
Cefnogwch yr Iaith Gymraeg. Arholwch ar lefel uwch gyda ni
Gyda'r cynnydd parhaus mewn addysg cyfrwng Cymraeg, hoffai CBAC recriwtio uwch arholwyr a chymedrolwyr ychwanegol ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf.
Os ydych chi'n arholwr profiadol, mae mwy o fanylion am ein rolau Uwch Arholwyr i'w gweld yma. Gallwch chi hefyd drefnu sgwrs anffurfiol â'n Swyddog Pwnc Cymraeg Iaith Gyntaf, Manon Maddock, drwy gysylltu â manon.maddock@cbac.co.uk.
5 rheswm dros fod yn Uwch Arholwr
Fel Arholwr neu Gymedrolwr profiadol, mae gennych rôl hanfodol yn y broses asesu. Mae rôl Uwch Arholwr neu Gymedrolwr yn rhoi boddhad ac yn gyfle unigryw. Yn ogystal â rhoi hwb i'ch incwm, mae sawl budd arall i'r rôl hon fel yr amlinellir isod.
1. Datblygu eich sgiliau rheoli ac arwain tîm ymroddedig
Fel Uwch Arholwr a Chymedrolwr, byddwch chi'n gyfrifol am reoli tîm o arholwyr a'u tywys nhw drwy'r broses asesu. Byddwch yn rhoi arweiniad i'ch tîm ac yn datblygu eich sgiliau rheoli project wrth fynd ymlaen.
2. Cryfhau eich arbenigedd dylunio asesiadau
Drwy osod asesiadau a llunio cynlluniau marcio byddwch chi’n cael cyfle heb ei ail i weld y broses o'r dechrau i'r diwedd. Mae hyn yn cynnwys creu a sicrhau ansawdd deunyddiau asesu, darpariaeth hyfforddiant a monitro marcio asesiadau.
3. Derbyn hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr
Byddwch yn cael eich hyfforddi i greu asesiadau dibynadwy a dilys ac yn derbyn arweiniad a chefnogaeth i sicrhau eich bod yn deall yn llawn y cyfrifoldebau, y disgwyliadau a'r dyddiadau cau ar gyfer eich swydd. Mae ein rhwydwaith cefnogi eang yn cynnwys cefnogaeth gan gymheiriaid fel uwch benodedigion eraill, ynghyd â staff ymroddedig CBAC sy'n ffurfio Tîm y Pwnc a'r Tîm Penodedigion y gallwch gysylltu â nhw ar unrhyw bryd.
4. Mwynhau cyfleoedd gweithio hyblyg
Mae'r rôl hon yn amrywiol, yn ddiddorol, yn un sy'n rhoi boddhad a hefyd yn rhoi cyfle i chi weithio'n hyblyg ar yr un pryd â'ch swydd bresennol, lle bo hynny'n briodol.
5. Rhwydweithio ag athrawon a phobl broffesiynol profiadol eraill
Byddwch yn gweithio'n agos ag aelodau o'ch tîm arholi a chymedroli felly bydd cyfle i chi adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau gydag athrawon ac arbenigwyr pwnc profiadol eraill.
Gwnewch wahaniaeth. Arholwch ar lefel uwch. Dyma eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth i fywydau dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd wrth i chi ddod yn rhan hanfodol o'r gwaith o ddarparu cymwysterau i ymddiried ynddynt a chefnogaeth arbenigol yn ein cymunedau addysg.
Hoffech chi wybod mwy? Cysylltwch â Manon Maddock, Swyddog Pwnc Cymraeg Iaith Gyntaf ar manon.maddock@cbac.co.uk neu mae mwy o fanylion am y rolau ar ein gwefan yma.