CBAC yn Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yng Nghynhadledd Plaid Cymru
Rydym yn falch iawn o fod yn mynychu Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru 2026, a dyma fydd ymddangosiad cyntaf CBAC yn y digwyddiad blynyddol.
Pryd? 2-3 Hydref 2026
Ble? Llandudno
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae'r digwyddiad blynyddol yn dod â gwleidyddion, gwneuthurwyr polisïau a rhanddeiliaid ar draws Cymru ynghyd i drafod materion sy'n effeithio ar gymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a dyfodol y genedl.
Bydd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys dadleuon, trafodaethau a chyfleoedd i rwydweithio. Bydd yn llwyfan gwerthfawr i sefydliadau o amrywiaeth o sectorau gysylltu â chynrychiolwyr etholedig a phenderfynwyr allweddol.
![]() |
Dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau, wrth sôn am ein rhan “Mae mynychu Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn ein galluogi i ymgysylltu â phenderfynwyr, partneriaid a rhanddeiliaid ar adeg dyngedfennol i addysg yng Nghymru. Mae'n darparu llwyfan pwysig i gyfrannu at drafodaethau cenedlaethol, i rannu ein harbenigedd a'n syniadau, ac i ddeall yn well y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu dysgwyr, ysgolion a cholegau.” |
Cwrdd â'r tîm
Bydd ein tîm wrth law drwy gydol y digwyddiad i drafod ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru (Ton 3) a gymeradwywyd yn ddiweddar, i arddangos ein hadnoddau digidol RHAD AC AM DDIM, ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Edrychwn ymlaen at wneud cysylltiadau newydd a chyfrannu at sgyrsiau am ddyfodol addysg yng Nghymru.
Dysgwch fwy am y digwyddiad yma.
