CBAC yn parhau i fod ar flaen y gad o ran diwygio cymwysterau'r Cwricwlwm i Gymru

Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi mai CBAC yw'r corff dyfarnu cyntaf i gael cymeradwyo rhai o'i gymwysterau Ton 3 Cenedlaethol 14-16 gan Cymwysterau Cymru. Mae 4 TAAU a 3 cymhwyster Sylfaen eisoes wedi'u cymeradwyo. 

Yn ei sylwadau am y cyflawniad hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:

"Rydym yn falch iawn o fod y corff dyfarnu cyntaf i dderbyn cymeradwyaeth Cymwysterau Cymru. Daeth hyn yn sgil ein dull gweithredu manwl gywir o ddatblygu cymwysterau a'r sylw diflino yr ydym yn ei roi i ansawdd. Cydweithiwyd yn agos ag addysgwyr ac arbenigwyr o'r diwydiant drwy gydol y broses hon. Ein nod wrth wneud hynny oedd sicrhau bod ein cymwysterau'n adlewyrchu arferion presennol ac yn rhoi'r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr sydd o werth i gyflogwyr. 

Wedi'u llunio i fod yn gyfochrog â'n TGAU newydd, mae'r TAAU yn cynnig llwybrau arloesol i'n dysgwyr i ystyried meysydd newydd o ddiddordeb, gan gynnig mwy o ddewis ac annog ystyriaeth o ddewis eang o rolau yn y diwydiannau o'u dewis. Ar yr un pryd, cafodd ein cymwysterau Sylfaen eu llunio i rymuso pob dysgwyr i lwyddo, i feithrin sgiliau hanfodol, a gosod sylfaen gref ar gyfer dysgu, bywyd, a gwaith yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i'n rhanddeiliaid am barhau i ymgysylltu â ni ac am eu cyfraniad heb ei ail, hynny sydd wedi helpu i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn ysbrydoli dysgwyr ac yn eu cefnogi er mwyn llwyddo."

Mae ein cymwysterau cenedlaethol Gwneud-i-Gymru newydd yn ffurfio rhan o Drydedd Don diwygio cymwysterau yng Nghymru. Yn eu plith, mae'r cymwysterau TAAU, Project Personol a Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith. Mae cyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn gam ymlaen pwysig at ehangu llwybrau uchel eu safon, y mae'r dysgwr yn ganolog iddynt, ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru.

Cymwysterau wedi'u cymeradwyo 
Mae Cymwysterau Cymru wedi cymeradwyo'r cymwysterau canlynol i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen:

Lefel 1 / 2 TAAU

  • Amgylchedd Adeiledig
  • Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Teithio a Thwristiaeth

Lefel Mynediad / Lefel 1 Sylfaen 

  • Cymraeg
  • Cymraeg Craidd
  • Dylunio a Thechnoleg

Noder y byddwn yn cyhoeddi fersiynau drafft o'r manylebau cyn bo hir. Fodd bynnag, oherwydd gofynion y rheoleiddwyr, ni ellir cyhoeddi'r fersiynau cymeradwy terfynol tan 1 Medi. Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Amserlen gyhoeddi
Mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn gweithio ar fyrder i fynd i'r afael ag adborth y rheoleiddwyr ar gymwysterau a gyflwynwyd yn flaenorol. Rydym yn gobeithio cyrraedd y nod o sicrhau cymeradwyaeth ar eu cyfer yn fuan. Rydym yn paratoi yn ogystal i gyflwyno cymwysterau ychwanegol am gymeradwyaeth Cymwysterau Cymru.

Hysbysir ysgolion a cholegau drwy e-bost ac ar ein gwefan pan fyddwn yn cyhoeddi unrhyw fanylebau drafft. Bydd y fersiynau cymeradwy terfynol ar gael o 1 Medi.

Cefnogaeth ac arweiniad
Byddwn yn cyhoeddi pecyn cyflawn o gefnogaeth RAD AC AM DDIM yn fuan i gynorthwyo â'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Adnoddau digidol o safon
  • Cyfleoedd dysgu proffesiynol

Yn nes ymlaen y tymor hwn hefyd, byddwn yn cyhoeddi cyfres o 'Ganllawiau Cyflym' unigol sy'n amlinellu cynnwys, testunau a dulliau asesu ar gyfer pob pwnc.

Mae ein Cynrychiolydd Cefnogaeth Ranbarthol, Sophie Dobbs, ar gael yn ogystal i gefnogi wyneb yn wyneb ac ar-lein. Anfonwch e-bost at ton3@cbac.co.uk i drafod ein cymwysterau neu i drefnu cyfarfod.

Gwybodaeth bellach 
I gael gwybod mwy am ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 ewch i'r ardal bwrpasol ar ein gwefan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at ton3@cbac.co.uk