CBAC yn noddi Sioe Addysg Genedlaethol 2026
Rydym yn falch o fod yn noddi'r Sioe Addysg Genedlaethol eleni – digwyddiad blaenllaw i bawb sy'n gweithio ym myd addysg!
Pryd? Dydd Gwener, 2 Hydref
Ble? Utilita Arena, Caerdydd
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae'r Sioe Addysg Genedlaethol yn un o'r digwyddiadau addysg mwyaf dylanwadol, ac yn dod â miloedd o athrawon, arweinwyr a gweithwyr addysg proffesiynol at ei gilydd am ddiwrnod o ddysgu, rhwydweithio a darganfod syniadau newydd.
Gyda rhaglen orlawn o seminarau ac amrywiaeth enfawr o arddangosfeydd yn dangos yr adnoddau a'r datblygiadau diweddaraf, mae'n gyfle gwych i archwilio dulliau newydd, dysgu strategaethau ymarferol, a chysylltu â phobl eraill sy'n angerddol am wella addysg.
Dewch i ddweud helo
Bydd ein tîm cyfeillgar ar gael yn Stondinau 157 a 158 i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein cyfres o gymwysterau, yn cynnwys ein cymwysterau galwedigaethol Gwneud-i-Gymru newydd, megis y cymwysterau TAAU ac i arddangos ein hamrywiaeth heb ei hail o adnoddau digidol ategol RHAD AC AM DDIM.
> Gweld seminarau YMA!
> Lawrlwythwch Lyfryn Sioe Caerdydd 2026 YMA!
