CBAC yn lansio Adolygiad Blynyddol

CBAC yn lansio Adolygiad Blynyddol

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad ein Hadolygiad Blynyddol cyntaf – gan roi cipolwg ar ein llwyddiannau a'n cyflawniadau yn ystod 2021/22.

Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at ein dilyniant fel sefydliad wrth i ni barhau i weithio'n agos â'r gymuned addysg i alluogi dysgwyr Cymru i gyrraedd eu llawn botensial.

Yn ei sylwadau am yr Adolygiad Annibynnol, dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Morgan: “Wrth edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf, rwy'n teimlo'n hynod falch o’r hyn rydym wedi'i gyflawni fel corff. Mae'n amlwg o'r Adolygiad Blynyddol ein bod wedi aros yn driw i'n gweledigaeth, ac yn parhau i weithio'n galed i gefnogi ysgolion a cholegau ledled y wlad tra'n sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i ddangos yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.’

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Gwybodaeth am gynnal arholiadau yn effeithiol yn 2022.
  • Dylunio cymwysterau sy'n addas ar gyfer y dyfodol gan gynnwys Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
  • Ysbrydoli dysgwyr ein cenedl trwy ein cyfres newydd o gymwysterau galwedigaethol.
  • Dathlu amrywiaeth o gyflawniadau, gan gynnwys cael eu cydnabod gan Fuddsoddwyr mewn Pobl.

Gallwch lawrlwytho ein Hadolygiad Blynyddol – byddem yn gwerthfawrogi eich adborth, naill ai trwy e-bost neu drwy gyfryngau cymdeithasol – gan ddefnyddio #CBACAdolygiadBlynyddol

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletinau e-bost i dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gwaith a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.