CBAC yn ennill y wobr nodedig – gwobr cyflogwr cenedlaethol
Mae CBAC yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cael ei enwi'n enillydd yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2025, gan ennill y categori hynod gystadleuol 'Cyflogwr y Flwyddyn y DU: Arian.
Bellach yn eu deuddegfed blwyddyn, mae'r gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl yn ddathliad o'r gwahanol gyrff ar draws y DU sy'n ailddiffinio’r hyn mae’n ei olygu i fod yn gyflogwr gwych. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn gosod CBAC ymhlith grŵp elitaidd o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i reoli pobl a diwylliant yn y gweithle sy'n eithriadol.
Mynegodd y Prif Weithredwr Ian Morgan ei falchder yn y cyflawniad: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i greu amgylchedd yn CBAC lle mae pobl yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u grymuso i ddatblygu. Mae ein cynnydd o'r achrediad 'Buddsoddwyr mewn pobl' cychwynnol yn 2021 i gyflawni statws Arian yn 2024 yn dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod, a'n bod ni wir yn cymryd ein cyfrifoldeb i fuddsoddi yn ein pobl o ddifrif.”
![]() |
Ychwanegodd: “Mae'r fframwaith hwn wedi ein helpu i lunio ein diwylliant mewnol gyda'r systemau, polisïau ac, yn bwysicaf oll, y bobl gywir, i sicrhau bod CBAC yn parhau i fod yn lle gwych ac ysbrydoledig i weithio." |
Daeth y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2025, â sefydliadau o amrywiaeth eang o sectorau ynghyd i ddathlu arfer gorau a chyflawniadau rhagorol o ran datblygu gweithle. Dewiswyd yr enillwyr gan banel arbenigol o feirniaid sy'n cynrychioli diwydiannau o bob cwr o'r DU.
I'r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â CBAC, mae rhagor o wybodaeth i'w chael ar ein tudalen Gweithio gyda ni ar y wefan.
