CBAC yn ehangu ar yr hyn sydd ganddo i'w gynnig o ran cymwysterau Ton 3, gan gynnig mwy o ddewis i ddysgwyr Cymru
Yn dilyn llwyddiant sicrhau cymeradwyaeth Cymwysterau Cymru ar gyfer ein cyfres lawn o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3, mae'n bleser gennym gadarnhau y byddwn ni'n datblygu cymwysterau TAAU a Sylfaen Busnes, Cyfrifeg a Chyllid.
Mae'r ehangiad hwn yn rhan o'r ymrwymiad parhaus sydd gennym i gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu perthnasol ac o safon i ddysgwyr ledled Cymru, ac yn cryfhau'r hyn sydd gennym i'w gynnig o ran cymwysterau Gwneud-i-Gymru.
Mewn sylw ar y cyhoeddiad, dywedodd Rachel Dodge, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro: Datblygu Cymwysterau (Cymwysterau Galwedigaethol a Sgiliau):
![]() |
"Rydym yn arbennig o falch i ddatblygu cymwysterau newydd ym maes Busnes, Cyfrifeg a Chyllid yn rhan o'n cynnig Gwneud-i-Gymru Ton 3. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ystod eang o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr ledled Cymru, a bydd cynnwys y cymwysterau hyn yn gwella hyd yn oed mwy ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig. Bydd ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn bwrw ati'n syth felly, gan ddefnyddio ein dull cyd-awduro i ddatblygu'r cymwysterau hyn. Drwy gydweithio'n agos ag ymarferwyr addysgol ac arbenigwyr o'r diwydiant, byddwn yn sicrhau bod y cynnwys yn adlewyrchu anghenion y diwydiant ac yn helpu dysgwyr i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol i lwyddo yn y dyfodol." |
TAAU (Lefel 1 / Lefel 2) Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
Bydd y cymhwyster hwn yn cyflwyno dysgwyr i gysyniadau busnes, cyfrifeg a chyllid allweddol, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o arferion busnes cynaliadwy a chyfrifol, ac yn eu galluogi i gymhwyso'r hyn maent wedi'i ddysgu drwy broject busnes ymarferol sy'n canolbwyntio'n gryf ar gyllid a chyfrifeg.
Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith (Lefel Mynediad / Lefel 1) Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
Caiff y cymhwyster hwn ei lunio i gynnig cyflwyniad i ddysgwyr i weithgarwch a gweithrediadau busnes, gan eu helpu i ddeall sut mae busnesau'n gweithio yn ymarferol a datblygu sgiliau ymarferol ar yr un pryd drwy greu a gweithredu syniad busnes.
Llinell Amser
Rhagwelwn gyflwyno'r manylebau drafft i Cymwysterau Cymru i'w cymeradwyo yn ystod tymor yr hydref. Bwriadwn wedyn gyhoeddi manylebau a deunyddiau cefnogi wedi'u cymeradwyo yn ystod tymor y gwanwyn.
I dderbyn y diweddaraf am y cymwysterau hyn a datblygiadau eraill sy'n digwydd o ran y cynnig cymwysterau Gwneud-i-Gymru, cofiwch danysgrifio i'n rhestr bostio.
