CBAC yn cyhoeddi lansiad eu cynnwys dysgu cyfunol newydd
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol i ni gyd a nawr rydym ar ddeall bod athrawon o bosib yn wynebu newid digynsail yn y ffordd y byddant yn addysgu, a sut y bydd myfyrwyr yn dysgu, yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Dros yr haf, rydym wedi bod yn cyd-weithio’n agos gydag ymarferwyr o’r pedwar consortia er mwyn cynllunio a datblygu modiwlau dysgu cyfunol sy’n cefnogi athrawon a myfyrwyr Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol. Gallwch weld y modiwlau Dysgu Cyfunol diweddaraf yma.
Mae’r fanyleb wedi’i rhannu yn fodiwlau dysgu ac addysgu hylaw. Mi fydd pob modiwl yn ymdrin ag elfennau allweddol o’r fanyleb a gellir eu defnyddio ar gyfer dysgu gwrthdro, gwaith cartref, adolygu neu ar gyfer parhad dysgu pe tasai eich myfyrwyr yn methu â mynychu’r ysgol.
Bydd modiwlau yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd, ac er mwyn eich cynorthwyo gyda’r cynllunio mae CBAC wedi creu amserlen o’r cyhoeddiadau hyd at y Nadolig. Byddwn yn cyhoeddi amserlen ychwanegol yn nhymor y Gwanwyn. Croesawir adborth ar gyfer yr unedau cyntaf yma ac mi fydd yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth greu unedau yn y dyfodol. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau neu os hoffech chi drafod anghenion ar gyfer pynciau eraill, mae croeso i chi gysylltu gyda’r tîm adnoddau: adnoddau@cbac.co.uk.